OWEN, JOHN (1564? - 1628?), epigramydd

Enw: John Owen
Dyddiad geni: 1564?
Dyddiad marw: 1628?
Rhiant: Thomas Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: epigramydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: John Henry Jones

mab Thomas Owen, Plas Du, Llanarmon, Sir Gaernarfon (gweler yr ysgrif ar y teulu). Yr oedd yn 'ysgolor' yng Ngholeg Winchester yn 1577, ymaelododd yn New College, Rhydychen, yn 1582, a daeth yn ' jurist fellow ' o'r coleg yn 1584; cymerodd radd B.C.L. yn 1590. Bu'n athro ysgol yn Trelech, sir Fynwy, hyd 1595, pryd y daeth yn bennaeth ysgol Warwick. Er i'w ddeg llyfr o epigramau gael eu cyhoeddi rhwng 1606 a 1613 ni wyddys ddim am ei yrfa wedi 1595. Efallai iddo ymddeol o'i swydd a byw ar ei noddwyr; efallai, serch hynny, iddo wasnaethu fel pennaeth yr ysgol yn Warwick hyd flwyddyn ei farw (1628?), gan na enwir neb arall yn brifathro 'r ysgol hyd 1628?; gellir, felly, amau mynegiad Anthony Wood i Owen farw yn 1622. Ymysg ei noddwyr yr oedd Lady Arabella Stuart, tywysog Cymru, a Robert Cecil. Bu gwerthu mawr yn eu dydd ar lyfrau epigramau John Owen; ailargraffwyd y casgliad cyntaf (o dri llyfr) ymhen y mis. Serch eu dodi ar yr ' Index Expurgatorius ' yr oeddent yn fwy poblogaidd ar y Cyfandir nag ym Mhrydain. Bu iddynt ddylanwad arbennig ar Almaenwyr a ysgrifennai epigramau. Cyfieithwyd hwy yn Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, a Sbaeneg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.