OWEN, JEREMY (fl. 1704-44), gweinidog Presbyteraidd ac awdur

Enw: Jeremy Owen
Rhiant: David John Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Presbyteraidd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab David John Owen o'r Bryn, Abernant, Caerfyrddin (1651? - 1710), ac felly nai i James Owen ac i Charles Owen. Bu'r tad (a breswyliai ym Mhwllhwyaid) am amser maith yn henuriad athrawiaethol yng nghynulleidfa Henllan Amgoed, cyn ei urddo'n fugail arni tua 1705. Fel ei frawd James, yr oedd ef yn dilyn Baxter yn ei ddiwinyddiaeth, ac yn Bresbyteraidd ei syniadau ar drefn eglwysig. Ond yr oedd yn Henllan elfen gref o uchel-Galfiniaeth ac o 'gynulleidfaoliaeth,' a arweinid gan Lewis Thomas, Bwlch-y-sais, un arall o'r henuriaid athrawiaethol yno. Diwedd mwy nag un ymgais gan weinidogion y cyffiniau i dawelu'r storm fu diarddel Lewis Thomas a'i bleidwyr - aethant hwy allan i sefydlu eglwys newydd, yn Rhyd-y-ceisiaid.

Pan fu farw D. J. Owen (7 Hydref 1710), urddwyd ei fab Jeremy, gŵr ieuanc o gryn allu, i'w ddilyn, yn 1711. Anhysbys yw amser ei eni. Bu yn ysgol ei ewythr yn Amwythig, yn gyfoed ac yn gyfaill i Thomas Perrot(t). Plannodd ei ewythr ynddo nid yn unig ysgolheictod glasurol dda ond hefyd y golygiadau 'cymedrol' a gysylltir â'i enw ef ei hun. Torrodd anghydfod o'r newydd allan yn Henllan, ac ymadawodd haid arall i Ryd-y-ceisiaid, dan arweiniad Mathias Maurice a Henry Palmer. Wedyn (tua 1715) bu raid i Jeremy Owen ymddiswyddo o'i ofalaeth, yn herwydd rhyw gam-ymarweddiad, anhysbys ei natur ond a addefir ganddo ef ei hunan. Fe'i ceir yn cadw ysgol yn Llundain yn 1718; bu'n weinidog yn Petworth (1721-6), Barnet (1726-32), a Princes Risborough (1733-44). Aeth wedyn i America (T. Rees, Hist. Prot. Noncon., ail arg., 294), lle y bu farw, ni wyddys pa bryd.

Yn y cyfamser yr oedd Byr Hanes Mathias Maurice, 1727, o helyntion Henllan wedi cyffroi Jeremy Owen i gyhoeddi ateb, Golwg ar y Beiau sydd yn yr Hanes a Brintiwyd ynghylch Pedair i Bump Mlynedd i nawr, ym mherthynas i'r Rhwygiad a wnaethpwyd yn Eglwys Henllan yn y Blynyddoedd 1707, 1708, 1709 (Caerfyrddin, 1732/3; ail argraffiad, Gwasg Prifysgol Cymru, 1950), pamffled wedi ei sgrifennu mewn Cymraeg cadarn o'r rhywiocaf, a chyda medr dadleuol cwbl ddidrugaredd. Nodir gweithiau eraill yr awdur yn Llyfryddiaeth y Cymry, dan 1711 a 1713; ond anghywir oedd priodoli yno iddo bregeth angladdol ar ei ewythr Charles Owen, dan 1746, a gwaith arall yn yr un flwyddyn. Awdur y rheini oedd JOSIAH OWEN (1711 - 1755); gweler Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iii, 360. Y mae ysgrif ar hwnnw yn y D.N.B.; yn sicr, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, yr oedd yntau'n un o deulu'r Bryn. Fe allai fod yn fab arall i D. J. Owen (mab, os felly, a aned wedi marw ei dad), h.y. yn frawd i Jeremy, neu o bosibl yn fab i Evan John Owen o blwyf Cyffig, y tybir (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iii, 338) ei fod yn un o feibion y Bryn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.