Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , JAMES ( 1654 - 1706 ), gweinidog ac athro Ymneilltuol, a diwinydd ; g. 1 Tachwedd 1654 yn y Bryn ( Brynmeini ), Abernant , Caerfyrddin , yn ail fab i John Owen . Yr oedd ei fam (na wyddys mo'i henw) yn nith i'r esgob Thomas Howell [q.v.] ac i'r llythyrwr James Howell [q.v.] ; ei thref-tad hi oedd y Bryn , a berthynai i'w thaid Thomas Howell , ficer Cynwyl Elfed ac Abernant a chyn hynny curad Llangamarch — llithrodd Ant. Wood gan ddweud mai yn y Bryn , Abernant , y ganed James Howell , oblegid yng Nghefn Bryn , Llangamarch , yr oedd Thomas Howell yn byw ar y pryd. Brodyr i James Owen oedd D. J. Owen (gw. dan Owen , Jeremy ) a Charles Owen [q.v.] ; troes y naw plentyn at Ymneilltuaeth , serch mai Cafalîr , a ddioddefodd hefyd dros ei frenin , oedd eu tad. Addysgwyd James Owen yn ysgol y frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin ; prin y gall y D.N.B. fod yn gywir pan ddywed iddo fod dan addysg y Crynwr James Picton , oblegid ymadawodd hwnnw â Dinbych-y-pysgod yn 1658 , pan nad oedd James Owen ond 4 oed, ac yng ngharchar y bu wedyn gan mwyaf. Ond tystiodd James Owen ei hun wrth Calamy iddo fod dan addysg Samuel Jones [q.v.] ym Mrynllywarch yn 1672-3 ; bu wedyn dan hyfforddiant Stephen Hughes [q.v.] yn Abertawe . Anogwyd ef gan Henry Maurice [q.v.] i bregethu yng Ngogledd Cymru ; preswyliai dros dro ym Modfel , ac ar 23 Ebrill 1676 achwynwyd arno am gadw moddion anghyfreithlon yn Llangybi Eifionydd . Dihangodd o Lŷn at Hugh Owen [q.v.] , Bronclydwr , a bu'n cynorthwyo hwnnw (ef, yn 1700 , a bregethodd bregeth angladdol Hugh Owen ). Fis Tachwedd 1676 penodwyd ef yn gaplan i Mrs. Baker , yn Swinney ger Croesoswallt , a chymerth ofal y gynulleidfa Ymneilltuol yn y dref; yno ( 27 Medi 1681 ) y bu ef a Philip Henry [q.v.] yn dadlau â'r esgob William Lloyd [q.v.] . Yn 1690 , agorodd academi yr oedd clod mawr iddi; ond ni roes heibio ei bregethu teithiol , oblegid pregethai'n fisol yn Rhuthyn , ac wedyn yn Ninbych , Wrecsam , a Llanfyllin . Ond yn 1700 symudodd i Amwythig , yn gydweinidog â Francis Tallents , a throsglwyddodd ei academi hefyd i'r dref honno — gw. y disgrifiadau ohoni yn ei gofiant ac yn McLachlan , English Education under the Test Acts , 81-2. Bu f. 8 Ebrill 1706 . Bu'n briod deirgwaith. Er mai fel Annibynnwr y rhestrir ef, yr oedd ynddo ogwydd at Bresbyteriaeth ; yn yr un modd, dilynodd Richard Baxter yn ei olygiadau diwinyddol, isel-Galfinaidd a chymedrol. Dengys ei yrfa ei fod yn Ymneilltuwr ymroddedig, ond yma eto ni wrthodai gymrodeddu lle y gellid heb aberthu egwyddor — dau o'i weithiau mwyaf hysbys yw Moderation a Virtue 1703 , a Moderation still a Virtue , 1704 , sy'n amddiffyn Ymneilltuwyr a gymunai'n achlysurol yn y llannau (‘ occasional conformists ’) er mwyn gallu dal swyddau cyhoeddus. Ceir rhestr o'i weithiau yn y D.N.B. Ni chollodd ei gyswllt â Chymru chwaith. Ef a roes i Edmund Calamy fanylion am weinidogion Ymneilltuol Cymru . Cyhoeddodd hefyd amryw lyfrau Cymraeg : Trugaredd a Barn , 1687 ; Bedydd Plant o'r Nefoedd , 1693 , ateb i'r Bedyddiwr Benjamin Keach ; cyfieithiad o Gatecism Byrraf y Gymanfa — sef cymanfa Westminster1701 ; a Hymnau Scrythurol , 1705 ‐ cynhwyswyd rhai o'r emynau hyn gan Griffith Jones , Llanddowror , a Daniel Rowland yn eu casgliadau hwythau.

Llyfryddiaeth:

  • Charles Owen , Some account of the life and writings of the late pious and learned Mr.James Owen, minister of the gospel in Salop , Llundain, 1709 , 1709 ;
  • Alexander Gordon yn y Oxford Dictionary of National Biography ac yn Llawysgrif o eiddo'r Presbyterian Board, a gyhoeddwyd gan Alexander Gordon dan y teitl , 1917 (mynegai);
  • T. Richards , Religious Developments in Wales, 1654–1662 , 1923 , Wales under the Indulgence , a Wales under the Penal Code, 1662-1687 , 1925 (mynegeion);
  • W. Rowlands , Llyfryddiaeth y Cymry , Llanidloes, 1869 dan y blynyddoedd a nodwyd (cymysglyd);
  • A History of Carmarthenshire , 1935–9 , ii, 415-6;
  • McLachlan (uchod).

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor