Nid oedd neb amlycach nag Isambard Owen gyda dechreuadau Prifysgol Cymru , fel y prawf amlinell fras cynllun 1891 , memorandwm cyflawnach 1892 , a'i ran flaenllaw yng nghynadleddau Amwythig ( Ionawr a Chwefror 1893 ), yn y rhai y cytunwyd ar brif bwyntiau siarter y brifysgol (gwnaed llawer o'r gwaith cyfreithiol gan ei frawd Charles Maynard Owen ). Pan sefydlwyd y brifysgol yn 1894 , gydag arglwydd Aberdâr yn ganghellor cyntaf, Isambard Owen oedd ei ddirprwy , ac yn gyfrifol am ben trymaf y dyletswyddau; daliodd yn ‘ Senior Deputy Chancellor ’ tan 1910 . Cofia pawb sy'n cofio'r cyfnod hwn am ei olwg urddasol, ei lais persain treiddgar, a Lladiniaith goeth y geiriau seremonïol. Purion cofio ei wahodd i fod yn brifathro Coleg Caerdydd ar ôl marw Viriamu Jones a'r ffaith mai ef (yn ôl Syr Harry Reichel ) bioedd y syniad o gyfaddasu adeilad mawreddog Coleg Bangor at lethrau creigiog Penrallt , ac nid gwastatáu'r tir i dderbyn yr adeilad. Yn 1904 penodwyd ef yn brifathro Coleg Armstrong , Newcastle-on-Tyne , ac o 1909 i 1921 bu'n is-ganghellor Prifysgol Bryste ; y mae iddo le anrhydeddus effeithiol yn hanes y ddau sefydliad. Urddwyd ef yn farchog yn 1902 , yn Ll.D. gan Brifysgolion Cymru ( 1911 ) a Bryste ( 1912 ), ac yn D.C.L. gan Brifysgol Durham ( 1905 ). Priododd, 1905 , ag Ethel Holland-Thomas , o Gae'r Ffynnon , ger Talsarnau , a chawsant ddwy ferch. Bu f. ym Mharis ar 14 Ionawr 1927 , a chladdwyd ef yng Nglanadda , Bangor , ar 2 Chwefror . [Ei enw llawn oedd Herbert Isambard Owen .]
Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor