OWEN
,
HUGH
(
1575?
-
1642
),
Gwenynog
,
cyfieithydd
;
g.
tua 1575
yn fab i
Owen ap Hugh ap Richard
, perchennog stad fechan
Gwenynog
ym mhlwyf
Llanfflewyn
,
Môn
. Nid oes sicrwydd iddo erioed fod mewn prifysgol, ond dywedir ei fod yn hyddysg, nid yn unig yn y gyfraith, ond mewn mwy nag un o ieithoedd tramor, ‘
yr hyn ni ddyscodd gan nebyn Athro arall ond efe ei hun gartref yn ei studi ei hunan
.’ Yn ystod
chwarter cyntaf y 17eg g.
gweithredai am dymor fel
goruchwyliwr
ar
stad Bodeon
, a
rhwng 1614 a 1618
bu ganddo ran lled amlwg yn achosion milwrol yr ynys fel
capten cartreflu (‘trainband’)
cwmwd
Talybolion
. Rhywbryd yn y cyfnod hwn penderfynodd droi at
Eglwys Rufain
, a
thua 1622
gadawodd ei gartref a'i deulu ac aeth yn
ysgrifennydd
i'r
arglwydd Herbert
yn
Worcester House
,
Llundain
. Yn
1627
symudodd gyda'i feistr i
gastell Rhaglan
pan etifeddodd
Herbert
iarllaeth Worcester
. Parhaodd yng ngwasanaeth yr
iarll
hyd tua chanol
1640
, pryd yr ymddengys iddo ymneilltuo i fyw yn ardal
abaty Tintern
, ac yno, ym mhlwyf
Chapel Hill
, y bu f., rhywdro
rhwng Mawrth a Gorffennaf 1642
. Hyd y gwyddys, ni ddychwelodd i
Fôn
ond ar un achlysur yn unig, a hynny am ysbaid byr tua chanol
haf 1624
. Priododd ag
Elisabeth
, ferch
Thomas
Bulkeley
o'r
Groesfechan
, a bu iddynt ddau fab a saith o ferched. Yr oedd yn ewythr i
William
Griffith
,
D.C.L.
,
canghellor
Bangor
a
Llanelwy
[q.v.]
, ac i
George
Griffith
,
D.D.
,
esgob Llanelwy
[q.v.]
.
Cofir amdano'n bennaf fel
awdur
Dilyniad Crist
, y cyfieithiad cyntaf yn
Gymraeg
o
De Imitatione Christi
Thomas
à Kempis
, a olygwyd ac a gyhoeddwyd yn
1684
gan ei fab
Hugh
, yr
offeiriad Jesiwitaidd
a adwaenir yn well fel y tad
John
Hughes
[q.v.]
. Dywed
Hughes
yn y cyflwyniad i
Dilyniad Crist
i'w dad gyfansoddi ‘
amryw Draethodau duwiol, a phan nid oedd efe etto ond 27 oed ef a gyfieithodd yn Gymraec
Lyfr y Resolusion
… a gwedi hyny
Vincentius Lirinensis
, y rhai ysgatfydd a gant ryw amser weled y goleuni cyhoedd
.’
Llyfryddiaeth:
-
J. H. Davies
yn
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion
,
1897-8
, 13-15;
-
W. Llewelyn Williams
, ibid.,
1901-2
, 136-44;
-
Y Cymmrodor
, xvi, 176-7;
-
Journal of the Welsh Bibliographical
Society
, I, ii, 59-62;
-
T. Llechid Jones
, ibid., III, iv, 145-51; III, v, 204-19;
-
A. O. Evans
, ibid., IV, i, 15-6;
-
E. G. Jones
yn
Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a
Naturiaethwyr Môn
,
1938
, 42-9;
Awdur:
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor