OWEN
,
HENRY
(
1844
-
1919
),
hynafiaethydd
;
g.
12 Mawrth 1844
, mab ieuengaf
William
Owen
(
1796
-
1879
),
U.H.
,
D.L.
,
ymgymerwr
a
saer dodrefn
,
Hwlffordd
, a
Withybush
, a'i wraig
Martha Hall
Owen
(
1806
-
1885
). Addysgwyd ef yn
ysgol ramadeg y Bont-faen
a
Choleg Corpus Christi
,
Rhydychen
(
1862-6
), gan raddio'n
B.A.
yn
1866
,
B.C.L.
yn
1869
, a
D.C.L.
yn
1900
.
Cyfreithiwr
ydoedd ac ymunodd â
chwmni Jenkinson Owen
,
cyfreithwyr
yn ninas
Llundain
, ac ymhen amser daeth yn berchen arno. Wedi iddo ymddiswyddo yn
1914
sefydlodd ei gartref yn
Poyston
ger
Hwlffordd
. Yn ei hamdden
astudiai hanes a hynafiaethau
, yn enwedig hanes a hynafiaethau
sir Benfro
. Cyhoeddodd
Gerald the Welshman
,
1889
(arg. newydd
1904
);
Old Pembroke Families
,
1902
;
Index to the Historical Tour through Pembrokeshire by R. Fenton
,
1894
; a
A List of Printed Books treating of the County of Pembroke
,
1897
. Gyda chymorth ysgolheigion fel
Egerton
Phillimore
[q.v.]
a'r
Dr.
E. A.
Lewis
, golygodd
Owen's Pembrokeshire
,
1892[-1936]
, a
Calendar of Public Records relating to Pembrokeshire
,
1911-4
. Bu'n cydweithio ag
Edward
Laws
[q.v.]
i gynhyrchu
An Archaeological Survey of Pembrokeshire
,
1896?-1907
(
Tenby
,
1908
). Yr oedd yn aelod o'r
Comisiwn Brenhinol ar Ddogfennau Cyhoeddus
(
1910
) a'r
Comisiwn Brenhinol ar Adeiladau Hynafol Cymru
(
1914
). Bu'n
drysorydd
(
1906-19
) a
chadeirydd
(
1915-9
)
Cymdeithas y Cymmrodorion
,
trysorydd
cyntaf
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
(
1907-19
),
siryf
sir Benfro
(
1902
), ac yn
ustus heddwch
ac
is-gadeirydd
brawdlys chwarterol sir Benfro
. Yn
1916
cafodd radd
D.Litt. (‘er anrhydedd’)
Prifysgol Cymru
. Yn ei ewyllys gadawodd ddetholiad o'i lyfrgell werthfawr i
Lyfrgell
Genedlaethol Cymru
, a'r gweddill i dref
Hwlffordd
, eithr ei gasgliad o lawysgrifau i gyd i'r
Llyfrgell Genedlaethol
(
NLW MS. 1341-1453
yn awr). Bu f. yn
Poyston
14 Ebrill 1919
.
Llyfryddiaeth:
-
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion
,
1918-9
, 223-9; 1919-20, 146-7;
-
West Wales Historical Records
,
1910–29
, x, 25-8;
-
Archaeologia Cambrensis
,
1919
, 473-5;
-
Pembrokeshire County Guardian
,
18 Ebrill 1919
;
-
Handlist of Manuscripts in the National
Library of Wales
, 1940 ff
, i, 107-18.
Awdur:
Dr Bertie George Charles, Ph.D., (1908-2000), Aberystwyth