OWEN
,
GRIFFITH
(
1647
-
1717
),
Crynwr a meddyg
;
mab
Robert
[q.v.]
a
Jane
Owen
,
Dolserau
,
Dolgellau
. Bu'n
feddyg
yn
Lancashire
am ysbaid cyn ymfudo, gyda'i rieni oedrannus, yn y llong
Vine
i
Pennsylvania
yn
1684
, ac ymsefydlu ym
Merion
(‘
Welsh Tract
’). Teithiodd lawer ymhlaid ei grefydd ac edmygid ef yn fawr gan
William
Penn
. Dychwelodd i'r fam-wlad yn
1695
a'r flwyddyn honno cyhoeddodd lyfryn,
Our Ancient Testimony
, yn gwrthwynebu heresïau
George
Keith
. Gwnaeth y ‘
Barbadoes distemper
’ lawer o ddifrod nes i'r
meddyg
Owen
a'i fab
ddarganfod meddyginiaeth
rhagddo. [Bu f. yn
1717
, ‘yn 70 oed’; gw.
J. E.
Griffith
,
Pedigrees
, 201.]
Llyfryddiaeth:
-
T. A. Glenn
,
Welsh Founders of Pennsylvania
,
Rhydychen, 1911-13
;
-
T. M. Rees
,
A history of the Quakers in Wales and their
emigration to North America
, 1925
;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
Notable Welshmen (1700–1900)
,
1908
Awdur:
Y Parch. Thomas Mardy Rees, (1871-1953), Castell Nedd