g. ar
Galan Ionawr 1723
mewn bwthyn ar y
Rhosfawr
ym mhlwyf
Llanfair Mathafarn Eithaf
yn
sir Fôn
. Yr oedd ei daid,
Goronwy
Owen
yr
eurych
, a'i dad,
Owen Gronw
, yn
rhigymwyr
ac
achyddion
, a'i fam,
Siân
Parri
, yn
Gymraes
ddiwylliedig. Pan oedd yn 10 oed aeth i ysgol a gynhelid yn
Llanallgo
; yn
1734 neu 1735
i ysgol rad ym
Mhwllheli
, ac oddi yno yn
1741
i
Ysgol y Friars
,
Bangor
. Tan y
prifathro
Edward
Bennet
, a'i gynorthwywr
Humphrey
Jones
, tyfodd yn
ysgolhaig clasurol
. Ar
20 Medi 1741
apeliodd at
Owen
Meyrick
Bodorgan
, un o ymddiriedolwyr ‘
Elusen Lewis
,’ am ysgoloriaeth i
Goleg Iesu
,
Rhydychen
, ac ar
3 Mehefin 1742
derbyniwyd ef yno fel ‘
servitor
,’ a chael ymaelodi fel aelod o'r brifysgol ar yr un dyddiad. Arhosodd ei enw ar y llyfrau (gyda bylchau) tan fis
Mawrth 1748
, ond ni thrigiannodd yno, ar wahân i ychydig ddyddiau yn ystod pythefnos cyntaf
Mehefin 1744
.
Rhwng 1742 a 1744
bu'n ‘
usher
’ yn
ysgol rad Pwllheli
, a rhwng
25 Ionawr 1744-5 a 25 Tachwedd 1745
bu'n byw yn
Ninbych
, ac yn
‘usher’ yn yr ysgol
yno. Daeth, yn ôl pob tebyg, i gysylltiad â
beirdd
gwlad
y cylchoedd hyn. Yn
Ionawr neu Chwefror 1746
urddwyd ef yn
ddiacon
, a chafodd
guradiaeth
Llanfair Mathafarn Eithaf
, a chyfle i gymdeithasu â
beirdd
a
hynafiaethwyr
sir Fôn
. Gorfu iddo adael a bu'n
gurad
yng
Nghroesoswallt
ac yn
athro ysgol
am dair blynedd; yno y priododd
Elin
, merch
Owen
a
Margaret
Hughes
,
masnachwyr
pwysig. Yna symudodd yn
gurad
i
Uppington
,
sir Amwythig
, ac
athro
ysgol Donnington
. Yn
Donnington
y lluniodd rai o'i gywyddau pwysicaf, gan gynnwys ‘
Cywydd Dydd y Farn
. Drwy help
William
Morris
aeth yn
gurad
i
Walton
, pentref yn ymyl
Lerpwl
, a dechreuodd ar ei waith yn
Ebrill 1753
, a châi £13 am fod yn
athro ysgol
. Bu'n hapus yn
Walton
, ond yn weddol ddiffrwyth fel
bardd
. Ym mis
Medi 1755
gadawodd
Walton
a throi i
Lundain
, gan feddwl y byddai'r
Cymmrodorion
yn ei gyflogi fel ysgrifennydd a chyfieithydd a thalu iddo ‘am offeiriadu yn
Gymraeg
’ mewn ‘
rhyw eglwys neu Gappel unwaith bob Sul
.’ Bu'r
Cymmrodorion
yn garedig iddo er na chafodd yr hyn a ddisgwyliai, a chafodd
guradiaeth
Northolt
, pentref ym
Middlesex
, ac yma y cyfansoddodd gywyddau, a'r gorau ohonynt, sef ‘
Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch o Fôn, yr hwn a roddasai glod i Oronwy.
’ Cafodd ei
ficer
yn
Northolt
, y
Dr.
Samuel
Nicholls
, gyda chydsyniad
esgob Llundain
, iddo swydd
ysgolfeistr ysgol ramadeg
yng
Ngholeg William and Mary
,
Williamsburg
, yn
Virginia
, a chychwynnodd ar ei waith
tua 9 Ebrill
1748
, ac yr oedd hefyd, yn ôl pob tebyg, yn ‘
Professor of Humanity
’ (h.y.
Lladin
) yn yr un coleg. Cyn diwedd yr haf cyntaf priododd â
Mrs.
Clayton
, chwaer llywydd y coleg, ond bu hi farw o fewn blwyddyn. Ymddiswyddodd o'r coleg, a chynnig am fywoliaeth
S. Andrews
,
Brunswick County
,
Virginia
, ar
25 Awst 1760
, a'i chael ymhen blwyddyn, ac yno y bu tan ddiwedd ei oes. Yn
1761
prynodd blanhigfa i dyfu cotwm a thybaco
, ac yn
1763
priododd â
Joan
Simmonds
, ei drydedd wraig. Bu f. ddechrau mis
Gorffennaf 1769
, a chladdwyd ef yn eiblanhigfa.
Ceir copïau o gywyddau a llythyrau gan
Goronwy
Owen
mewn llawysgrifau yn yr
Amgueddfa Brydeinig
a'r
Llyfrgell Genedlaethol
; dywedir fod llawysgrif o'i waith yn aros yn
sir Fôn
. Ymddangosodd tair cerdd o'i waith yn
Dewisol Ganiadau yr Oes Hon
,
1759
; ceir bron y cwbl o'i gerddi yn
Diddanwch Teuluaidd
,
1763
; y mae pump na cheir yn
Diddanwch Teuluaidd
yn
Corph y Gainc
,
1810
; ychwanegwyd y pump at y caneuon eraill yn ail argraffiad
Diddanwch Teuluaidd
,
1817
. Cyhoeddodd
John
Jones
,
Llanrwst
, argraffiad o weithiau
Goronwy
Owen
yn
1860
, sef
Gronoviana
; y
Parch.
Robert
Jones
,
Rotherhithe
[q.v.]
, argraffiad yn
1876
, ac
Isaac
Foulkes
[q.v.]
,
Holl Waith Barddonol Goronwy Owen
yn
1878
. Ymhlith yr argraffiadau diweddaraf o weithiau
Goronwy
Owen
ceir ‘
Cyfres y Fil
,’
1902
;
Cywyddau Goronwy Owen
,
W. J.
Gruffydd
,
1907
;
Y Farn Fawr … a Dinistr Jerusalem; Clasuron Llenyddiaeth Cymru
; ‘
Cyfres yr Ysgol Haf Gymreig
,’
1907
. Ymddangosodd ‘
Marwnad Lewis Morris
’ yn
Almanac
Gwilym
Howel
,
1770
, a llythyrau
Goronwy
Owen
yng
Ngreal Llundain
, y
Cambrian Register
, y
Cambro-Briton
,
Y Gwyliedydd
, ac y mae erthyglau ar
Oronwy
Owen
yn y gwahanol gylchgronau.