Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , FOULKE ( fl. 1686 ), bardd ; brodor o Nantglyn , sir Ddinbych . Nid oes dystiolaeth ym mha le y cafodd ei addysg er ei bod yn bosibl iddo fod yn Rhydychen , os oedd yn perthyn (gallasai fod yn ŵyr) i'r Foulk Owen hwnnw o sir Ddinbych a raddiodd yno yn 1584 . Bu'n berchen ‘ Llyfr Du Basing ,’ llawysgrif bwysig o'r 14eg a'r 15fed ganrif a gedwir yn awr yn Ll.G.C. ( N.L.W. MS. 7006 ), fel y tystiodd ef ei hun wrth dorri'i enw deirgwaith gyda'r dyddiad ‘ 1686 ’ ar y dail cyntaf. Ni chadwyd nemor ddim o'i farddoniaeth, onid ei waith ef yw'r cerddi di-enw a argraffwyd yn Cerddlyfr, yr hwn sydd yn cynnwys amryw garolau a dyrifiau o waith amryw awdwyr , a gyhoeddwyd ganddo, ac a argraffwyd yn y Theatr , Rhydychen , 1686 . Copi anghyflawn yn unig y gwyddys i sicrwydd ei gadw hyd heddiw, ac y mae hwnnw yn Ll.G.C .

Awdur:

Dr David Jenkins, C.B.E., M.A., D.Litt., (1912-2002), Penrhyn-coch, Aberystwyth