Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , DAVID (‘ Brutus ’; 1795 - 1866 ), golygydd a llenor ; g. tua diwedd 1795 (bedyddiwyd ef 25 Rhagfyr 1795 ) ym mhlwyf Llanpumpsaint , sir Gaerfyrddin . Yr oedd ei dad, David Benjamin ( Owen ) , yn grydd ac yn glochydd , a'i fam Rachel ( Owen ) , yn aelod gyda'r Bedyddwyr . Cafodd addysg dda a hyfforddiant yn y clasuron. Bwriadai fod yn feddyg ac fe'i prentisiwyd gyda John Thomas , Aberduar , ger Llanbydder . Yn ystod ei brentisiaeth troes at y Bedyddwyr a rhoi ei fryd ar y weinidogaeth. Bu am flwyddyn yn athrofa'r Bedyddwyr ym Mryste cyn ymsefydlu yn Aber , rhwng Bangor a Llanfairfechan , fel ysgolfeistr a phregethwr cynorthwyol . Ymhen tair blynedd symudodd i Lyn i ofalu am gapeli Tal-y-graig , Galltraeth , Tyndonnen , a Rhoshirwaun , ac ordeiniwyd ef yn weinidog rheolaidd. Ymgartrefodd yn Llangïan ; ac yn ogystal â gweinidogaethu, gwasanaethai fel meddyg gwlad ac ysgolfeistr . Tua 1820 priododd Anne , merch Thomas Jones , Rhandir , ffarmwr o'r gymdogaeth a diacon gyda'r Annibynwyr . Hwyrach mai tlodi ynghyd â byrbwylltra a barodd iddo apelio am help ariannol oddi wrth gymdeithasfa'r Undodiaid , gan haeru fod ei gynulleidfaoedd wedi derbyn syniadau Undodaidd . Dadlennwyd ei dwyll ac fe'i diarddelwyd gan gymanfa'r Bedyddwyr ym Mhwllheli .

Yr hyn a'i dug i amlygrwydd yng Nghymru oedd ei lythyr (dan y ffugenw ‘ Brutus ’) yn Seren Gomer , Mawrth 1824 , yn ymosod ar yr iaith Gymraeg . O hynny allan fel ‘ Brutus ’ yr adwaenid ef. Wedi'i ddiarddel gan y Bedyddwyr , ymaelododd gyda'r Annibynwyr yn y Capel Newydd ac ymroi i gadw ysgol yn Llangïan . Cafodd bregethu gyda'r Annibynwyr , ond ni ddaeth yn boblogaidd. Wedyn symudodd i Dyddynsweep , Maenaddfwyn , ger Llannerch-y-medd ; ond ni bu'n llwyddiannus iawn yno chwaith, ac yn y man symudodd i'r Bontnewydd ger Caernarfon a chadw ysgol yno. Yn 1828 , ar ôl ei benodi'n olygydd Lleuad yr Oes , cylchgrawn a gyhoeddid yn Aberystwyth , aeth i gadw ysgol yn Llanbadarn-fawr , ond pan brynwyd hawlfraint y cylchgrawn hwnnw yn 1829 gan Jeffrey Jones , yr argraffydd o Lanymddyfri , aeth ‘ Brutus ’ i fyw ym Mhentre-ty-gwyn . Pan fu Jeffrey Jones f. yn 1830 , cychwynnwyd Yr Efangylydd , fel dilynydd i Lleuad yr Oes , gan bwyllgor o weinidogion yr Annibynwyr , gyda ‘ Brutus ’ yn olygydd a D.R. a W. Rees [q.v.] , Llanymddyfri , yn argraffwyr . O dan olygyddiaeth ‘ Brutus ’ troes y cylchgrawn newydd yn fwy gwleidyddol nag y bwriedid iddo fod, a'i duedd at geidwadaeth wleidyddol ac eglwysig, a bygythiwyd troi ‘ Brutus ’ o'i swydd. Diwedd yr anghydfod oedd i'r Reesiaid sefydlu cylchgrawn newydd, Yr Haul , at wasanaeth yr Eglwys Sefydledig , a chyda ‘ Brutus ’ yn olygydd , ac i'r Annibynwyr sefydlu'r Diwygiwr , gyda'r Parch. D. Rees [q.v.] yn olygydd , yn 1835 . Dychwelodd ‘ Brutus ’ at yr Eglwys , yn Llywel , a symud i fyw ym Mhwllmadog , ger y Pentre-bach , rhwng Llanymddyfri a Threcastell . Yn ddiweddarach bu'n byw ym Mronarthen , ger yr Half-way . Hyd ddiwedd ei oes parhaodd i olygu 'r Haul gyda medr mawr, ond byddai'n mynd yn achlysurol i gapel y Bedyddwyr , Horeb , yng Nghwm-dwr . Y mae'n rhyfedd na chafodd urddau gan yr Eglwys . Bu f. ar 16 Ionawr 1866 a'i gladdu yn eglwys Llywel , lle y mae coflech iddo.

Yr oedd yn ysgrifennwr toreithiog a chyhoeddodd lu o lyfrau crefyddol a diwinyddol ; yn eu plith y mae Athrawiaeth Bedydd Babanod , 1828 ; Cwymp Babilon Fawr , 1829 ; Breinniau Babanod , 1830 ; Daearyddiaeth Ysgrythyrol , 1835 ; Allwedd y Cyssegr , 1835 (2il arg. 1839 ); Christmasia , 1840 (2il arg. 1861 , 3ydd arg. 1887 ); Gweithrediadau yr Eglwys Sefydledig , 1841 ; Gwaedd Uwch Gwlad , 1843 ; Eliasia , 1844 ; Darganfyddiadau yn Ninefeh , 1852 (cyfieithiad o lyfr Saesneg gan A. H. Layard ); Brutusiana , 1855 , detholiad o'i ysgrifeniadau yn Yr Haul ; a Cofiant y diweddar Barch. Thomas Williams , 1861 . Nid fel ysgolhaig na diwinydd y mae'n bwysig, ond yn hytrach fel dychanwr . Ei brif gocyn hitio oedd cwacyddiaeth, yn arbennig cwacyddiaeth pregethwyr gwaethaf yr Ymneilltuwyr, y ‘Jacs’ fel y'u gelwid. Hwynthwy a ddilornir mewn llu o ysgrifau, traethodau, ac adolygiadau, yn Ymddiddanion Bugeiliaid Epynt (detholiad gan T. Jones , 1950 ) ( Yr Haul , 1835-6 ), ac yn Wil Brydydd y Coed (ibid., Medi 1863-Rhagfyr 1865 ), a gyhoeddwyd hefyd ar wahân yn 1876 a 1896 .

Llyfryddiaeth:

  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , ii, 353-5;
  • Y Traethodydd , 1867 , 213, 421;
  • The Red Dragon , iii, 385;
  • Seren Gomer , 1898 , 1;
  • rhagymadrodd T. Jones i Wil Brydydd y Coed Cofiant Siencyn Bach y Llwywr a Chofiant Dai Hunandyb , Caerfyrddin, 1876 (adarg. 1950) .

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones, D.Litt., Aberystwyth