Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , DAVID (bu f. 1765 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn y Felinfoel . Daeth yn weinidog ei fam-eglwys ar achlysur ymweliad y gymanfa yn 1735 , er y tybir ei alw i bregethu a'i ordeinio tua 10 mlynedd ynghynt, a galwyd ef yr un pryd i gynorthwyo'r eglwys wag yn Abertawe . Bu ei weinidogaeth yn llewyrchus dros ben, a chafodd yr anrhydedd o bregethu yn y gymanfa yn 1741 a 1758 . Bu f. 19 Ionawr 1765 yn 72 oed, a'i gladdu ar bwys y capel.

Llyfryddiaeth:

  • Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry (arg. 1885) , 515;
  • B. Humphreys , Hanes Bedyddwyr Felinfoel Cyfrol goffa dau can mlwyddiant, 1709-1909 , Llanelli, 1909 , 1909 , 77-8.

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

OWEN , DAVID (bu f. 1765 ; Bywg. , 658) Y mae ganddo emynau yn Llyfr o Emynau ( Caerfyrddin , 1740 ).

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe