Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , DAVID (‘ Dafydd y Garreg Wen ’; 1711/12 - 1739 ),

bedyddiwyd 27 Ionawr 1711/12 (cofnod yn Llyfrgell Coleg y Gogledd ) , mab Owen Humphreys , Ynyscynhaearn , sir Gaernarfon , a Gwen ( Roberts ) , Isallt Fawr , Llanfihangel-y-Pennant ( Eifionydd ) — gw. J. E. Griffith , Pedigrees , 353. Fe'i dygwyd i fyny'n delynor , ac y mae llawer o draddodiadau amdano; priodolir iddo'r alawon ‘ Dafydd y Garreg Wen ,’ ‘ Codiad yr Ehedydd ,’ a ‘ Difyrrwch Gwyr Cricieth .’ Bu f. fis Awst 1739 , a chladdwyd 2 Awst 1741 ym mynwent Ynyscynhaearn .

Ffynonellau:

  • Edward Jones , Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards … ;
  • M. O. Jones , Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (1890) ;
  • R. Griffith , Llyfr Cerdd Dannau (1913) ;
  • Y Brython , 1862-3 ;
  • Cymru (O.M.E.) , iii;
  • Y Cymro , Mehefin a Gorffennaf 1949 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54