g.
20 Hydref 1836
yn
53 Maes y Dref
,
yr Wyddgrug
,
sir y Fflint
, yr ieuengaf o chwech o blant.
Glöwr
oedd y tad, a chollodd ef a dau fab eu bywydau pan dorrodd dŵr i
waith glo Argoed
. Hanfyddai ei fam o deulu
‘
Twm o'r Nant
.’
Ychydig o addysg a gafodd
Daniel
Owen
pan oedd yn fachgen, a phan oedd yn 12 oed prentisiwyd ef yn
deiliwr
am bum mlynedd. Bu'n gweithio am 10 mlynedd wedyn gyda'i
hen feistr. Dechreuodd
bregethu
yn
1864
, yr un pryd â'r
athro
Ellis
Edwards
[q.v.]
. Mae'n debyg fod ei addysg fore yn gyffelyb i'r disgrifiad o addysg a geir gan ‘
Robyn y Sowldiwr
’ yn
Rhys Lewis
. Yr oedd ei waith yn siop y
teiliwr
yn gyfle iddo ddyfod i adnabod pobl ac i ddadlau ar wahanol bynciau, ac y mae ôl y profiad hwn ar ei nofelau. Hefyd, yr oedd cyfarfodydd cystadleuol yn y dref. Yr adeg hon,
cyfieithodd
Twelve Nights in a Bar Room
, nofel
Americanaidd
, a chyhoeddwyd y cyfieithiad mewn cylchgrawn pythefnosol o'r enw
Charles o'r Bala
. Ysgrifennodd hefyd ddisgrifiadau o gymeriadau o'r dref i gylchgrawn o'r De, a cheir rhai ohonynt yn
Straeon y Pentan
. Ysgrifennai i bapurau
Cymraeg
a
Saesneg
yr un amser. Dysgodd elfennau cerddoriaeth ac yr oedd yn
ganwr
da fel ei dad. Yr oedd yn 23 mlwydd oed cyn mynd yn aelod eglwysig, er ei fod yn gapelwr cyson. Aeth i
Goleg y Bala
yn
1865
. Ni ddisgleiriodd fel myfyriwr, ond darllenai lawer o lenyddiaeth
Saesneg
. Gadawodd y coleg braidd yn sydyn yn
1867
i fyned adref i edrych ar ôl ei fam a'i chwaer a oedd yn wael. Aeth yn ôl at ei hen feistr i weithio fel
teiliwr
. Yna dechreuodd gadw ei fusnes ei hun, ond daliodd i
bregethu
. Yn
1876
rhoes orau i bregethu oherwydd i'w iechyd dorri; ni allai annerch cynulleidfa. Ond gwellhaodd yn araf. Yna, ar argymhelliad
Roger
Edwards
, dechreuodd ysgrifennu rhai o'i bregethau a nifer o frasluniau o gymeriadau
Methodistaidd
i'r
Drysorfa
, o dan y teitl ‘
Offrymau Neilltuaeth
.’ Cytunodd, wedyn ar gais yr un gŵr i sgrifennu'r
Dreflan
i'w chyhoeddi bob yn bennod. Wedyn ysgrifennodd ei nofel,
Hunangofiant Rhys Lewis
, bob yn bennod i'r
Drysorfa
rhwng 1882 a 1885
. Wedyn cyhoeddwyd
Enoc Huws
a
Gwen Tomos
yn
Y Cymro
, papur wythnosol a gyhoeddid yn
Lerpwl
. Bu f.
Hydref 1895
.
Cyn
Daniel
Owen
, ni ellir dweud i ddim pwysig ymddangos ym myd y nofel
Gymraeg
, yn yr ystyr a roddwn i nofel heddiw. Disgrifio'r gymdeithas
Gymreig
a droai o gwmpas y capel a wnaeth ef yn
Rhys Lewis
,
Enoc Huws
, a'r
Dreflan
, a'r gymdeithas wledig yn
Gwen Tomos
, a disgrifio'r aelodau unigol y tu fewn i'r gymdeithas honno. Ni ddangosodd dwf a datblygiad y cymeriadau, na gadael iddynt weithio allan eu tynged, eithr disgrifiodd hwynt yn fanwl fel yr oeddynt. Y manylrwydd hwn sy'n rhoddi gwerth ar ei waith, a dyry lawer iawn o le i siarad a dadlau rhwng y cymeriadau — dylanwad y seiat, yn ôl
Saunders
Lewis
. Ei wendid mwyaf, efallai, yw ceisio cael cwlwm i'w nofelau, a methu ei ddatod yn naturiol. Er bod llawer o'i gymeriadau yn bobl a adwaenai yn y cnawd, eto ei greadigaethau ef ydynt fel y cawn hwynt ganddo. Hyd yma, ef yw ein
nofelydd
mwyaf o ran ansawdd ei waith, ac ef a sgrifennodd fwyaf hefyd.
Heblaw'r gweithiau a enwyd uchod ysgrifennodd
Daniel
Owen
Y Siswrn
,
1888
. Cafwyd cyfieithiadau i'r
Saesneg
o
Rhys Lewis
yn
1889
ac o
Enoc Huws
yn
1894-6
.
Mrs. Katherine Williams (‘Kate Roberts’), D.Litt.,
(1891-1985), Dinbych