OWEN
,
CHARLES
(bu f.
1746
),
gweinidog ac athro Ymneilltuol
,
brawd iau i
James
Owen
[q.v.]
— am ei dras, gw. yr ysgrif ar hwnnw. Yn
1691-2
yr oedd yn derbyn grantiau i'w gynnal yn
academi Bethnal Green
, dan
Ker
; bu wedyn dan addysg ei frawd yng
Nghroesoswallt
. Yr oedd yn
weinidog
yn
Wrecsam
yn
1695
a
1696
beth bynnag, ond ar
13 Ebrill 1697
ymddengys ei enw yn rhestr
gweinidogion
Lancashire
. O
1699
hyd ei f.,
17 Chwefror 1746
, bu'n
weinidog Presbyteraidd
Warrington
.
Cadwai yno ysgol
yr oedd bri mawr iddi; yn
1728
(yng nghwmni
Isaac
Watts
), cafodd radd
D.D.
gan
Brifysgol Edinburgh
.
Sgrifennodd lawer
, y cwbl yn
Saesneg
(gw. y rhestr yn y
D.N.B.
), yn eu plith gofiant,
1709
, i'w frawd enwog. Yn wahanol i hwnnw, yr oedd yn
ddadleuwr gwleidyddol
eiddgar; erlynwyd ef ar gyfrif un o'i bamffledau — yn ofer, ond costiodd yr achos lawer o arian iddo. Ystyrid ef yn un o gefnogwyr blaenaf y llinach
Hanoferaidd
yng
ngogledd Lloegr
.
Llyfryddiaeth:
-
Alexander Gordon
yn y
Oxford Dictionary of National
Biography
ac yn
Llawysgrif o eiddo'r Presbyterian Board, a
gyhoeddwyd gan Alexander Gordon dan y teitl ,
1917
(mynegai).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor