OWAIN FYCHAN ap MADOG ap MAREDUDD (bu farw 1187), tywysog Powys

Enw: Owain Fychan ap Madog ap Maredudd
Dyddiad marw: 1187
Rhiant: Susanna ferch Gruffydd ap Cynan
Rhiant: Madog ap Maredudd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog Powys
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

un o feibion Madog o Susanna, merch Gruffydd ap Cynan. Yn ôl cân gyfoes, ym Mechain, Cynllaith, a Mochnant-Isrhaeadr y gorweddai ei diroedd ef; yr oeddent yn ffurfio cainc rhwng tiroedd ei frawd hynaf, Gruffydd, a thiroedd ei gefnder, Owain Cyfeiliog. Yr oedd iddo bersonoliaeth ychydig uwchlaw'r cyffredin. Collodd ei fywyd yng Ngwern-y-Figyn gerllaw Carreg Hofa lle yr ymosodwyd arno yn fradwrus un noson gan Wenwynwyn a Chadwallon, meibion Owain Cyfeiliog. Parhaodd ei ddisgynyddion i reoli dros diroedd ym Mechain (eithr tiroedd y cwtogasid llawer iawn arnynt) hyd ddiwedd y 13eg ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.