OSBWRN WYDDEL (yn fyw yn 1293)

Enw: Osbwrn Wyddel
Plentyn: Kenric ab Osbwrn Wyddel
Plentyn: Einion ab Osbwrn Wyddel
Rhiant: John fitz Thomas fitz Maurice fitz Gerald de Windsor
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: William Llewelyn Davies

Gwyddel (eithr Gwyddel a pheth gwaed Cymreig ynddo) a ymsefydlodd yng ngorllewin Meirionnydd, gan briodi merch perchennog Cymreig Corsygedol, a dyfod yn hynafiad rhai o deuluoedd tiriog Meirionnydd - gweler e.e. yr erthyglau ar Wyniaid Glyncywarch, Wyniaid Peniarth, a Fychaniaid (Vaughan) Corsygedol. Olrheinir achau y teuluoedd hyn (ac eraill) at KENRIC AB OSBWRN; cysylltir Kenric â Chorsygedol. Ceir y nodiad llawnaf ar Osbwrn gan W. W. E. Wynne yn Pedigree of the Family of Wynne, of Peniarth in the County of Merioneth (London, 1872). Aelod o dylwyth pwerus y Geraldines ydoedd. Geilw Syr William Betham, Ulster-King-at-Arms, ef yn fab 'John Fitz Thomas Fitz Maurice Fitz Gerald de Windsor the first Lord of Decies and Desmond,' Yr oedd Gerald (Fitz Walter) de Windsor yn gwnstabl castell Penfro ac yn fyw yn 1108; ei wraig ef oedd Nest, merch Rhys ap Tewdwr. Tybiai Robert Vaughan, Hengwrt (gweler Peniarth MS 6 ), i Osbwrn ddyfod i Gymru tua'r flwyddyn 1237 - nage, rai blynyddoedd yn ddiweddarach na hynny, meddai W. W. E. Wynne. Y mae prawf iddo gael ei drethu ym mhlwyf Llanaber (eithr nid treth blwyfol) yn y flwyddyn 1293 neu 1294; awgryma Wynne hefyd ei bod yn bosibl fod a fynnai ef rywbeth ag adeiladu eglwys Llanaber.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.