OLLIVANT
,
ALFRED
(
1798
-
1882
),
esgob Llandaf
;
g. ym
Manceinion
16 Awst 1798
, mab
William
Ollivant
o
Fanceinion
ac
Elizabeth
ei wraig. Cafodd ei addysg yn
ysgol S. Paul
,
Llundain
, a
Choleg y Drindod
,
Caergrawnt
, a bu iddo yrfa academig ddisglair. Bu'n
gymrawd
o'i goleg; graddiodd yn
M.A.
yn
1824
ac yn
B.D.
a
D.D.
yn
1836
. Yn
1827
penodwyd ef yn
is-brifathro
Coleg Dewi Sant
,
Llanbedr-pont-Steffan
, a bu yno hyd
1843
. Am y chwe blynedd nesaf bu'n
athro brenhinol mewn diwinyddiaeth
yng
Nghaergrawnt
, nes ei benodi'n
esgob
Llandaf
yn
1849
. Daliodd y swydd hon hyd ei f. yn
Llandaf
,
16 Rhagfyr 1882
, a chladdwyd ym mynwent yr eglwys gadeiriol.
Ollivant
oedd
esgob cyntaf Llandaf
ers hir amser i drigiannu yn ei esgobaeth; parodd atgyweirio'r eglwys gadeiriol, adeiladu 170 o eglwysi neu eu hailadeiladu, a gwella 70 o dai'r personiaid yn yr esgobaeth.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth