NOWELL, THOMAS (1730? - 1801) pennaeth S. Mary Hall ac athro hanes yn Rhydychen,

Enw: Thomas Nowell
Dyddiad geni: 1730?
Dyddiad marw: 1801
Rhiant: Cradock Nowell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pennaeth S. Mary Hall ac athro hanes
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

mab i Cradock Nowell o Gaerdydd. Pwy bynnag oedd y Noweliaid, y mae'n sicr bod yr enw ' Cradock ' yn eu cysylltu ag ardal y Notais ym Morgannwg; enwir mwy nag un ' Cradok ' mewn ewyllys o blwyf Trenewydd Notais yn 1504, ac yr oedd yno rydd-ddeiliad o'r enw ' Thomas Cradock ' yn 1634 (H. H. Knight, ' An Account of Newton Nottage,' yn Archæologia Cambrensis, 1853, 179, 246). Yn y 17eg ganrif gwystlwyd Cwrt Notais ei hunan gan y Lougheriaid i ryw William Jones, apothecari yng Nghaerdydd, ond yn 1777 gwerthwyd ef yn ôl i berchnogion Llandidwg ar y pryd (teulu Knight) gan ŵyr i'r William Jones hwn, Cradock Nowell (ibid., 256) - ai tad neu frawd i Thomas Nowell, nid yw'n hysbys. Y mae yn eglwys Trenewydd Notais goflech i weddw rhyw Cradock Nowell - benthyciodd R. D. Blackmore yr enw'n deitl i un o'i nofelau (Y Llenor, Hydref 1949).

Adroddir gyrfa Thomas Nowell yn y D.N.B. Aeth i Goleg Oriel yn 1746, 'yn 16 oed' meddai Foster (Alumni Oxonienses); graddiodd yn 1749 (D.D. 1764); etholwyd ef yn gymrawd yn 1753 a daliodd amryw swyddau yn y coleg; penodwyd ef yn brifathro S. Mary Hall yn 1764, ac yn athro hanes yn y brifysgol yn 1771 - bu hefyd am beth amser yn ' areithiwr ' y brifysgol. Bu farw 23 Medi 1801, 'yn 73 oed' meddid - fe welir nad yw hyn yn cytuno â chofnod ei ymaelodi. Yr oedd yn Dori rhonc, ac am hynny'n gymeradwy iawn gan Samuel Johnson. Yr oedd hefyd yn wrth-Fethodist cryf, a chymerth ran yn y ddadl yn erbyn Syr Richard Hill pan ymosododd hwnnw (yn ei Pietas Oxoniensis, 1768 - cyfieithiad Cymraeg, Duwioldeb Rhydychain, 1769, o waith John Thomas o Lanfihangel-Aberbythych) ar awdurdodau'r brifysgol am alltudio chwech o fyfyrwyr Methodistaidd - gweler hanes yr helynt yn D. E. Jenkins, Thomas Charles, i, 64-6.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.