NOTT
,
Sir
WILLIAM
(
1782
-
1845
),
milwr
;
g.
20 Ionawr 1782
gerllaw
Castell Nedd
, mab
Charles
Nott
,
Shobdan
,
sir Henffordd
. Cafodd
ei addysg yng
Nghastell Nedd
ac yn
ysgol ramadeg y Bont-faen
hyd
1794
, pryd y daeth ei dad yn
dafarnwr
gwesty'r ‘Ivy Bush’
yn nhref
Caerfyrddin
. Yn
1798
ymunodd â chorff o
wirfoddolwyr
yng
Nghaerfyrddin
a chan iddo ddyfod i hoffi'r bywyd milwrol ymadawodd (
1800
) am yr
India
lle y cafodd gomisiwn
swyddog
yn y ‘
Bengal European Regiment
.’ Bu'n gwasnaethu yn yr
India
— ar wahân i egwyl fer yn
1822
a dreuliodd yng
Nghaerfyrddin
— hyd nes iddo ymneilltuo oblegid afiechyd yn
1844
. Digwyddodd yr hyn yr enillodd fwyaf o enw iddo'i hun o'i blegid yn y
rhyfel Afghan cyntaf
, pryd yr arweiniodd lu o wŷr o
Kandahar
, gan orchfygu'r
Afghaniaid
yn
Chuznee
yn
1842
ac ymwthio ymlaen wedi hynny i
Kabul
. Treuliodd y cyfnod ar ôl ei ymneilltuad yng
Nghaerfyrddin
, lle y bu f. ar
1 Ionawr 1845
. Claddwyd ef yn
eglwys S. Pedr
. Y mae cofgolofn iddo ar y sgwâr yng
Nghaerfyrddin
a elwir yn awr yn
Nott Square
.
Llyfryddiaeth:
-
J. H. Stocqueler
,
Memoir and Correspondence of Major-General
Sir William Nott, G.C.B.
, Llundain, 1854
,
1854
;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
Awdur:
Yr Athro Samuel Henry Fergus Johnston, M.A., (1908-91),
Aberystwyth