NICHOLL
,
JOHN
(
1797
-
1853
);
g.
21 Awst 1797
, unig fab
Syr
John
Nicholl
[q.v.]
. Cafodd ei addysg yn
Ysgol Westminster
ac yng
Ngholeg Eglwys Crist
,
Rhydychen
lle y cafodd
ysgoloriaeth
yn
1816
. Graddiodd yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron ac, fel ei dad, llwyddodd i gael gradd
D.C.L.
yn
1825
a'i ethol yn ‘
Advocate
’ yn
Doctors' Commons
; galwesid yn
fargyfreithiwr
, o
Lincoln's Inn
, yn
1824
. Etholwyd ef,
Rhagfyr 1832
, yn aelod dros
Gaerdydd
yn y
Senedd
ddiwygiedig gyntaf ar ôl pasio'r ‘
Reform Act
,’ a chadwodd y sedd hyd
1852
. Daliodd amryw swyddi. Bu'n
Arglwydd y Trysorlys
am ychydig fisoedd yn
1835
, yn ‘
Master of the Faculties
,’ ac yn
farnwr llys ewyllysiau
archesgobaeth Caergaint
o
1838 hyd 1841
; dewiswyd ef yn ‘
Judge Advocate-General
’ ym mis
Medi 1841
, pryd y daeth yn aelod o'r
Cyfrin Gyngor
; yr oedd yn ‘
Ecclesiastical Commissioner
’ a daeth yn aelod o'r
Bwrdd Masnach
ym mis
Ionawr 1846
. Yn ei sir enedigol daeth yn
ddirprwy-raglaw
a chafodd ei ddewis yn
gadeirydd sesiwn chwarter Morgannwg
. Priododd,
14 Rhagfyr 1821
,
Jane Harriet
, ail ferch
Thomas Mansel
Talbot
,
Margam
. Bu iddo saith o blant, a dilynwyd ef yn y stad gan
ei fab hynaf,
John Cole
Nicholl
1823-1894
. Bu f.
27 Ionawr 1853
, yn
Rhufain
. Y mae stad
Merthyr Mawr
yn parhau ym meddiant disgynnydd uniongyrchol ohono.
Llyfryddiaeth:
-
W. R. Williams
,
The History of the Parliamentary
Representation of Wales
, 1895
;
-
G. T. Clark
,
Limbus Patrum Morganiae et
Glamorganiae
, 1886
;
-
gwybodaeth gan
Mr. R. I. Nicholl
.
Awdur:
Henry John Randall, F.S.A., (1877-1964), Penybont-ar-Ogwr