NICHOLL
,
Syr
JOHN
(
1759
-
1838
)
;
g.
16 Mawrth 1759
, ail fab
John
Nicholl
,
Llanmaes
, aelod o deulu a ymsefydlasai ers hir amser yn
Llanmaes
a
Llanilltyd Fawr
,
sir Forgannwg
. Cafodd ei addysg yn y
Bontfaen
a
Bryste
, ac ymaelododd yn
Rhydychen
(o
Goleg S. Ioan
) ar
27 Mehefin 1775
. Llwyddodd, ar
6 Ebrill 1785
, i ennill gradd
D.C.L.
, y cymhwyster a oedd yn anhepgor er mwyn cael ei dderbyn i'r gorfforaeth gyfyngedig iawn a elwid yn ‘
Doctor's Commons
'; derbyniwyd ef yn ‘
Advocate
’ ynddi ar
3 Tachwedd 1785
. Daeth cylch ei ymarfer â'r swydd honno yn eang; dilynodd
Syr
William
Scott
(
arglwydd Stowell
) fel ‘
King's Advocate
'
ar
6 Tachwedd 1798
a chael ei wneuthur yn
farchog
, yn ôl yr arfer. Etholwyd ef i'r
Senedd
yn
1802
a pharhaodd i fod yn aelod, dros amrywiol etholaethau, hyd y diddymwyd y
Senedd
ym mis
Rhagfyr 1832
, adeg y ‘
Reform Act
’ (
1832
), pryd yr ymneilltuodd. Yn ystod ei yrfa yn y
Senedd
yr oedd yn
Dori
pybyr; gwrthwynebai'n wastad y mesurau i ganiatáu mwy o ryddid i'r
Pabyddion
ac i ddiwygio'r gyfundrefn etholaethol. Yr ‘
Ecclesiastical Courts Act
,’
1829
, oedd ei gyfraniad gweithredol ef i ddeddfwriaeth. Yn
1809
apwyntiwyd
Syr
John
Nicholl
yn ‘
Dean of Arches
’ ac yn
farnwr llys yr ewyllysiau
,
Caergaint
; derbyniwyd ef hefyd yn aelod o'r
Cyfrin Gyngor
. Dewiswyd ef yn
farnwr
Uchel Lys y Morlys
yn
1833
. Y flwyddyn ganlynol gwnaethpwyd ef yn
ficer cyffredinol
i
archesgob Caergaint
a rhoes i fyny swyddi'r ‘
Dean of Arches
’ a
barnwr Llys yr Ewyllysiau
. Fel
barnwr
enillodd enw da iawn iddo'i hun ‘
for inflexible impartiality and great strength and soundness of judgement
.’ Ceir ei ddyfarniadau yn y
reports
swyddogol; argraffwyd amryw ohonynt ar wahân hefyd. Tua'r flwyddyn
1803
prynodd stad
Merthyr Mawr
, gerllaw
Penybont-ar-Ogwr
,
sir Forgannwg
; adeiladodd yno blasty hardd a chynnull yno lyfrgell o tua 30,000 o gyfrolau. Cymerth ran bwysig ym mywyd gwleidyddol ei sir enedigol, a bu'n gefnogydd cyson i
Syr
Christopher
Cole
, yr aelod
Torïaidd
. Yr oedd yn
aelod blaenllaw ym mudiad y gwirfoddolwyr yn ystod y rhyfel
â
Napoleon
, a chyrhaeddodd radd
lifftenantcyrnol
. Bu'n helpu i sefydlu
King's College
,
Llundain
. Yr oedd yn
F.R.S.
(
1806
) a
F.S.A.
Priododd
Judy
, ferch ieuengaf
Peter
Birt
,
Wenvoe
, ar
8 Medi 1787
. Bu f.
26 Awst 1838
ym
Merthyr Mawr
, gan adael unig fab,
John
Nicholl
[q.v.]
, a thair merch.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
a'r cyfeiriadau a roddir yno.
Awdur:
Henry John Randall, F.S.A., (1877-1964), Penybont-ar-Ogwr