NICHOLLS
,
ERITH GWYN
(
1875
-
1939
),
chwaraewr pêl droed (Rygbi)
— ar y cyfan, efallai'r enwocaf o
chwaraewyr Rygbi
Cymru
, serch mai yng
Nghaerloyw
y g. ef, yn
1875
. Yn llanc, chwaraeodd fel
cefnwr
a
hanerwr
dros glwb yr ‘
Harlequins
’ (a ddarfu ers llawer blwyddyn) yng
Nghaerdydd
; ar
ddydd Calan 1894
yr ymddangosodd gyntaf yn nhîm
Caerdydd
(er ei fod cyn hynny wedi chwarae dros
sir Gaerloyw
), fel
cefnwr
; chwaraeodd deirgwaith dros
Gaerdydd
fel
cefnwr
cyn symud i'r canol — fel
canolwr
yr enillodd ei fri mawr.
Rhwng 1896 a 1906
, cynrychiolodd
Gymru
24 o weithiau, a bu'n
gapten Cymru
sawl gwaith — y tro enwocaf oedd pan drechodd
Cymru
, yng
Nghaerdydd
yn
1905
, dîm (anorchfygedig cyn hynny)
New Zealand
. Bu'n aelod am sawl tymor o'r pwyllgor a ddewisai'r chwaraewyr dros
Gymru
; a
chyhoeddodd lyfr
,
The Modern Rugby Game and How to Play It
. Yr oedd yn bartner gyda'i gyd-frawd-yng-nghyfraith
H. B.
Winfield
[q.v.]
yn ffyrm y ‘
Victoria Laundries
.’ Bu f.
24 Mawrth 1939
. Y mae clwydydd coffa iddo yn y ‘
Cardiff Arms Park
.’
Llyfryddiaeth:
-
Rugby Football Annual
,
1939-40
, 11;
-
W. J. T. Collins
,
Rugby Recollections
, 1948
, 14;
-
The Times
,
25 Mawrth a 18 Mai 1939
;
-
Western Mail
,
25 Mawrth 1939
a
28 Rhagfyr 1949
.
Awdur:
Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth