NEWELL, EBENEZER JOSIAH (1853 - 1916), clerigwr, ysgolfeistr, a hanesydd

Enw: Ebenezer Josiah Newell
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1916
Rhiant: C. W. Newell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, ysgolfeistr, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: Lawrence Thomas

Ganwyd yn Southwark yn 1853 yn ail fab i C. W. Newell. Aeth yn 1872 i Goleg Worcester, Rhydychen, a graddiodd yn 1876. Bu'n athro mewn ysgol yng Nghaerdydd. Urddwyd ef yn 1890, yn gurad yng Nghastell Nedd, a chadwai ysgol yno. Agorodd ysgol ym Mhorthcawl yn 1891, a chynhaliai ddosbarthiadau nos; trwyddedwyd ef hefyd yn gurad Trenewydd Notais. Yn llyfrgell Cwrt Notais (gweler yr ysgrif ar Knight o Landidwg) enynnwyd ynddo ddiddordeb yn hanes yr Eglwys yng Nghymru, a gwnaeth waith da ar y pwnc - yr oedd hefyd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru. Heblaw cyfrol o farddoniaeth (The Sorrow of Simona), 1882, cyhoeddodd A Popular History of the Ancient British Church, 1887; A History of the Welsh Church to the Dissolution of the Monasteries, 1895 (traethawd buddugol yn yr eisteddfod genedlaethol); The Diocese of Llandaff, 1902; a S. Patrick, his Life and Teaching, 1890. Ddiwedd 1900, cafodd ficeriaeth Neen Sollers, Cleobury Mortimer (yn Sir Amwythig), a bu farw yno ddechrau Mehefin (claddwyd 6 Mehefin) 1916.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.