NEWCOME, RICHARD (1779 - 1857), clerigwr

Enw: Richard Newcome
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1857
Rhiant: Elizabeth Newcome
Rhiant: Henry Newcome
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 8 Mawrth 1779 yn Gresford, ger Wrecsam (lle yr oedd ei dad yn ficer 1764-1803), mab Henry Newcome ac Elizabeth ei wraig, a gor-nai Richard Newcome, esgob Llandaf (1755-61) a Llanelwy (1761-9). 'Cafodd ei addysg yn ysgol Rhuthyn a Choleg Queens ', Caergrawnt, a graddio'n B.A. yn 1800 ac M.A. yn 1804. Urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Bagot o Lanelwy, Medi 1801, ac yn offeiriad gan yr esgob Horsley, Medi 1803. Trwyddedwyd ef i guradiaeth Wrecsam, Mawrth 1804, ac ym Mehefin yr un flwyddyn dyrchafwyd ef yn warden Rhuthyn a rheithor Llanfwrog. Daliodd y swyddi hyn am 47 mlynedd. Gwnaed ef hefyd yn ganon yn eglwys gadeiriol Bangor (1821), yn archddiacon Meirionnydd (1834) (yr oedd deoniaeth Dyffryn Clwyd y pryd hwnnw yn esgobaeth Bangor), ac yn rheithor Clocaenog (1829-34). Yn 1851 ymddeolodd o Ruthyn a Llanfwrog a bu am chwe blynedd yn ficer Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Ysgrifennodd Memoirs of Dean and Bishop Goodman, 1825, a hanes cestyll a threfi Rhuthyn a Dinbych, 1829. Bu farw yn Llanrhaeadr, 7 Awst 1857, a'i gladdu yn Rhuthyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.