NENNIUS (NEMNIUS, NEMNIUUS); fl. c. 800

Enw: Nennius
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Hopkin Davies

Ef, yn ôl traddodiad, ydyw awdur yr hanes Lladin cynnar a elwir yn 'Historia Brittonum,' ac sydd yn amcanu rhoddi 'hanes' Prydain o amser Iŵl Caisar hyd tua diwedd y 7fed ganrif. Yn y rhagair dywed yr awdur ei fod yn ddisgybl i Elfodugus, a fu farw yn 809 'yn Brif esgob yng ngwlad Gwynedd.' Gellir casglu bod syniadau Nennius am Gristnogaeth ymarferol mor rhyddfrydig a byd-lydan ag eiddo ei feistr. Ar wahân i'r ffaith fod yr awdur yn dywedyd nad oedd yn hawlio iddo'i hun fawr ddim teilyngdod llenyddol na meddyliol - ac y mae ei Ladin gwael a'i wendid fel beirniad a chwynnwr yn profi hynny yn bur eglur - prin y gwyddom ddim amdano. Y mae'n bosibl mai brodor o rannau dwyreiniol Cymru ydoedd; y mae tystiolaeth fewnol yn ei waith yn awgrymu hynny. Nid yw'n debygol o gwbl mai efe ei hunan a ysgrifennodd y 'Liber Commonei' sydd yn Rhydychen (Bodl. Auct. F. 4. 32), eithr y mae cyfeiriad yn hwnnw yn dangos fod ei enw ac, efallai, ei waith, yn wybyddus yn 820 A.D. Enwir ef hefyd yn y 'Psalter of Cashel' gan Cormac mac Cuilennain (836 - 908). Am y gwaith ei hunan, y mae'r 'Historia Brittonum' yn ei ffurf lawnaf yn cynnwys rhagair a 76 o adrannau neu benodau y gellir eu dosbarthu (yn gyfleus) fel y canlyn (testun Mommsen-Lot): (a) y Rhagair; (b) Chwe Oes y Byd, 1-6; (c) yr 'Historia' fel y cyfryw, 7-56; (ch) yr Achau Anglo-Sacsonaidd, etc., 57-65; (d) Mesuriadau ac wyth-dinas-ar-hugain Prydain, 66; (dd) Rhyfeddodau Prydain, etc., 67-76. Ac eithrio y rhagair ni cheir mo'r holl adrannau hyn gyda'i gilydd ond mewn un llawysgrif yn perthyn i'r 11eg ganrif, sef B.M. Harl. MS. 3859, sydd yn cynnwys hefyd destun yr 'Annales Cambriae' a'r Achau Cymreig. Er cymaint y gwaith beirniadol a wnaethpwyd eisoes gan ysgolheigion, y mae cwestiwn testun gwreiddiol yr 'Historia' a maint ychwanegiadau diweddar at y testun hwnnw heb gael ei benderfynu eto. A siarad yn gyffredinol, deil un ysgol fod rhan fwyaf y defnydd a geir yn yr 'Historia' fel y mae gennym ar gael cyn hynny mewn gwaith cynharach, na wyddid pwy a'i cynullodd, o'r enw 'Cyfrol Prydain' ('The Volume of Britain'), ac mai hwn oedd sylfaen y gwaith fel y'i ceir gan Nennius a fersiynau ('argraffiadau') diweddarach (e.e. yr hawliau a wneir ynglŷn âr 'Lebor Bretnach,' sef y fersiwn Wyddeleg o Nennius, yn perthyn i'r 11eg ganrif, a wnaethpwyd gan Gilla Coemain); y mae ysgolheigion eraill yn canfod rhesymau cryfion dros gredu bod y rhagair, y rhan fwyaf o 7-56, yr adran ar Ddinasoedd Prydain, a rhai o'r Rhyfeddodau, yn waith gwreiddiol Nennius ei hunan, c. 796-800, ac i olygyddion neu gopïwyr gynnwys defnyddiau ychwanegol yn dangos eu diddordebau arbennig hwy eu hunain. Dywed Nennius ei hunan iddo gorffori defnyddiau a gafodd yng nghroniclau Eusebius, Jerôm, Isidor, a Prosper, yn hanes ('annales') y Rhufeiniaid, y Gwyddelod, a'r Sacsoniaid, a thraddodiadau'r gwledydd, gan gynnwys 'liber beati Germani.' Y mae ei ddyled i 'De Excidio Britanniae' Gildas am ddigwyddiadau hyd c. 540 yn bur amlwg, eithr y mae'r ateb i'r cwestiwn pa faint a wyddai am waith Beda a'r defnydd a wnaeth o'r wybodaeth honno yn dibynnu ar y casgliad y deuir iddo ynglŷn â chyfansoddiad yr 'Historia.' O ba le bynnag y cafodd Nennius ei ddefnyddiau, llurguniad o wir hanes ydyw'r hyn a gynhyrchwyd, er bod i rai rhannau lawer o werth hanesyddol, e.e. yr achau. Eithr gwir werth y gwaith ydyw'r defnydd a geir ynddo ar gyfer astudio yr hanesion am 'Arthur a'i Wŷr' a llenyddiaeth ac ysgolheictod Geltig gynnar yn gyffredinol. [Cyf. Cymraeg gan J. Owen Jones ]

Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg gan A. W. Wade-Evans (1938).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.