NASH, DAVID WILLIAM (bu farw 1876/7), hynafiaethydd ac ysgrifennwr ar lenyddiaeth Gymraeg gynnar

Enw: David William Nash
Dyddiad marw: 1876/7
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd ac ysgrifennwr ar lenyddiaeth Gymraeg gynnar
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Mary Gwyneth Lewis

trigai yn Cheltenham. Bu yn aelod o'r ' Cambrian Institution ' o 1858 hyd 1864 a chyfrannai erthyglau a nodiadau i'w chylchgrawn. Etholwyd ef yn F.S.A. ar 4 Chwefor 1864. Ef oedd awdur y gweithiau canlynol: On the Antiquity of the Egyptian Calendar, 1845; Taliesin, or the Bards and Druids of Britain … 1858; On the History of the Battle of Cattraeth and the Gododin of Aneurin, 1861; The Pharaoh of the Exedus, 1863; ' Merlin the Enchanter and Merlin the Bard,' traethawd a gyhoeddwyd yng nghyfrol yr Early English Text Society am 1869. Cyhoeddodd hefyd nifer o weithiau ar ddaeareg Cheltenham a'r cylch. Hysbyswyd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr o'i farwolaeth rhwng Ebrill 1876 ac Ebrill 1877. Gweler Cymm., xxviii, 18-22.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.