NASH
,
RICHARD
(‘
Beau Nash
’;
1674
-
1761
),
g. yn
Abertawe
18 Hydref 1674
, bu f. yn
Bath
3 Chwefror 1761
, a chladdwyd â rhwysg anarferol yn
Bath Abbey
. Adroddir ei yrfa hynod, a'r modd y dyrchafodd safle dinas
Bath
fel canolfan ffasiynol, yn ysgrif
Thomas
Seccombe
yn y
D.N.B.
, heb sôn am lu o lyfrau eraill. Ei dad oedd
Richard
Nash
, a aned yn nhref
Penfro
ond a oedd wedi ymsefydlu yn
Abertawe
'n
bartner mewn gwaith gwydr
. Ni wyddys hyd yn hyn ddim o'i dras. Gellir nodi bod teulu o'r enw
Nash
wedi bod yn
sgwïeriaid
Nash
ym mhlwyf
Llangwm
yn
sir Benfro
(
W. Wales Hist. Records
, ii, 36-7;
Laws
,
Little England
, 445), teulu o ‘newydd-ddyfodiaid’ i'r sir meddai
Fenton
(efallai o dref
Caerfyrddin
, lle'r oedd yn
1586
fasnachwr
pwysig o'r enw
Richard
Nash
), a theulu yr oedd yr enw ‘
Richard
’ yn frith ynddo. Ond darfu'r teulu hwnnw mewn aeresau. Fe allai, er hynny, i ryw fab iau o'r tylwyth droi at fasnach a chychwyn cainc newydd (a gwerinol), heb anghofio'r enw ‘
Richard
.’ Yr oedd mam ‘
Beau Nash
’ yn nith i
John
Poyer
[q.v.]
o dref
Penfro
. Addysgwyd
Nash
yn
ysgol y frenhines Elisabeth
yng
Nghaerfyrddin
, ac ymaelododd (fis
Mawrth 1691/2
) yng
Ngholeg Iesu
,
Rhydychen
, ond ni raddiodd.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor