NASH
,
JOHN
(
1752
-
1835
),
pensaer
;
g. yn
Aberteifi
. Prentisiwyd ef gyda
Syr
Robert
Taylor
; wedi hynny ymsefydlodd yn ymyl
Caerfyrddin
. Perswadiwyd ef gan nifer o gyfeillion i ddechrau busnes fel
pensaer
; gwnaeth hynny ac yn fuan iawn daeth yn enwog. Efe a
gynlluniodd garchardy'r sir
yn nhref
Aberteifi
, ynghyd â ffrynt orllewinol a chabidyldy
eglwys gadeiriol Tyddewi
. Symudodd i
Lundain
a daeth yn fydenwog ar gyfer ei greadigaethau gorchestol megis
Regent's Park
a'r rhesi tai yn y gymdogaeth,
Regent Street
, a'r
Marble Arch
. Yr oedd yn
noddwr hael i artistiaid
. Bu f.
13 Mai 1835
yn
East Cowes
.
Llyfryddiaeth:
-
Papworth
,
An encyclopædia of architecture, historical,
theoretical, & practical
, new revised edition,
Llundain, 1888
;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
T. M. Rees
,
Welsh painters, engravers and sculptors,
1527–1911
, 1912
.
Awdur:
Y Parch. Thomas Mardy Rees, (1871-1953), Castell Nedd