Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NANNEY , RICHARD ( 1691 - 1767 ), clerigwr efengylaidd .

g. yn 1691 , yn un o deulu Cefndeuddwr ger Trawsfynydd , cangen o gyff hynafol Nannau [q.v.] . Ymaelododd yng Ngholeg Iesu , Rhydychen , yn 1710 , graddio'n B.A. yn 1714 , M.A. yn 1719 ; penodwyd ef yn ficer Clynnog yn 1718 , ac yn rheithor Llanaelhaearn yn 1725 ; tystia Foster ei fod hefyd yn un o ganoniaid Bangor . Yr oedd iddo elfen fawr o ryddfrydigrwydd ysbryd, nodwedd naturiol ddigon pan gofir bod ei fam yn ferch i Richard Edwards o Nanhoron [q.v.] , prif sgwiïer Piwritanaidd y sir yn oes yr Adferiad , bod Catrin ei chwaer yn briod â'r meddyg Knight o Gaernarfon , teulu eto â llawer o gysylltiadau Ymneilltuol iddynt, a bod ei wraig hithau yn un o Wyniaid y Wern ger Penmorfa , teulu rhyddfrydig odiaeth mewn gwleidyddiaeth. Daeth Nanney yn un o brif gefnogwyr ysgolion Griffith Jones (yng Nghlynnog cynhelid yr ysgol yn aml yn eglwys y plwyf, ond weithiau mewn tai anghysbell yn y cyrion); y mae amryw o'i lythyrau yn Welch Piety , i gyd yn tystio i werthfawredd addysg a'r modd gorau i'w gyfleu, rai ohonynt yn fawr eu clod i'r hen ysgolfeistr Thomas Gough (gan fod Gough wedi hyfforddi Robert Jones , Rhoslan , yn ei dro, nid yw'n syn darllen teyrnged huawdl Robert Jones i Nanney yn Drych yr Amseroedd , geiriau a ddyfynnwyd yn Hanes Meth. Cymru , Cyff Beuno , a Hanes Meth. Arfon ). Cyfranogodd yn bur helaeth o ysbryd y diwygiad — er na chyfrifid ef ymhlith y clerigwyr Methodistaidd fel Griffiths ( Nanhyfer ) a Jones ( Llan-gan ) — a darllenir am dyrfaoedd o bobl yn gwrando arno'n pregethu yn eglwys Clynnog , amryw ohonynt yn dod o'r plwyfi cylchynol, a delir yn wrthwyneb glaearineb dechrau'r yrfa ac ymroddiad duwiolfrydig ei flynyddoedd olaf. Nid oedd pethau'r byd hwn yn mennu fawr arno; diofal ydoedd o'i anifeiliaid — cofier ei fod yn dal tir Elernion ger Llanaelhaiarn (os nad y Fachwen hefyd am gyfnod), stad fechan yr oedd gafael cadarn ynddi gan deulu'r wraig — ac (meddai Robert Jones ) nid adwaenai unrhyw geffyl ond yr un a farchogai ef ei hun. Yr oedd ganddo fab, yntau'n RICHARD NANNEY , mewn urddau eglwysig (bu f. 1812 ), gŵr pur wahanol iddo ef, ond tebyg iddo yn ei osgo Biwritanaidd at gysegredigrwydd y Saboth, fel y tystia llythyr llym o'i eiddo (ysgrifennwyd 21 Ionawr 1799 ) at un o gyfreithwyr Caernarfon . Priododd CATHERINE NANNEY , merch Richard Nanney , â Richard Ellis o deulu Bodychen , ef hefyd yn glerigwr , ac olynydd ei dad-yng-nghyfraith fel ficer Clynnog ; ef oedd tad David Ellis Nanney , y cwnsler enwog, ac un o hynafiaid Syr HUGH NANNEY o'r Gwynfryn .

Ffynonellau:

  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 165, 175, 343;
  • Alumni Oxonienses , 1500-1714 , 1051 ;
  • Llawysgrifau Cynhaiarn yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (Coleg y Gogledd), 472-82;
  • Henllys Manuscripts . (Coleg y Gogledd) 1279-95 ;
  • Welch piety, or, A farther account of the circulating Welch charity schools … to which are annexed testimonials relating to the masters and scholars of the said schools; in a letter to a friend , 1742-60 , 1751-61 ;
  • Drych yr Amseroedd , 1820 , 191-2;
  • Cymru (O.M.E.) , xi, 78-83;
  • Llawysgrif Bangor yng Ngholeg y Gogledd, Bangor 3704.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54