MYTTON, JOHN (1796 - 1834), heliwr a 'chymeriad'

Enw: John Mytton
Dyddiad geni: 1796
Dyddiad marw: 1834
Priod: Caroline Mallett Mytton (née Giffard)
Priod: Harriet Emma Mytton (née Jones)
Rhiant: John Mytton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: heliwr a 'chymeriad'
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd 30 Medi 1796, mab John Mytton, Halston Hall, Sir Amwythig. Bu yn ysgolion Westminster a Harrow ond trowyd ef allan o'r naill yn 1811 ac o'r llall yn 1812. Bu'n swyddog yn y seithfed gatrawd o 'Hussars' am gyfnod, ond pan ddaeth i'w oed daeth y stadau, yn Sir Amwythig ac yn Ninas Mawddwy, Meirion, i'w feddiant, gyda chyfanswm eu rhenti, oddeutu £18,000 yn y flwyddyn. Bu'n aelod seneddol dros dref Amwythig o 1819 hyd 1820, ond ni bu yn Nhŷ'r Cyffredin ond am hanner awr. Yn 1831 gwnaeth ymgais aflwyddiannus i gael ei ethol dros y sir, fel cefnogydd mesur diwygio'r etholfraint. Bu'n siryf Meirion yn 1821. Yr oedd yn ddibris a mentrus yn y maes hela, a gwariodd ei dda ar geffylau, betio, ac yfed. Pan fyddai yn Ninas Mawddwy byddai yn cynnig symiau (o hanner coron i hanner gini) i'r plentyn a rowliai gyntaf o ben Moel Dinas i'r gwaelod; gwnâi lawer o bethau a barai i bobl amau a oedd yn ei bwyll. Bu'n rhaid iddo ffoi i Ffrainc rhag ei ofynwyr, a phan ddychwelodd carcharwyd ef yng ngharchar y King's Bench, Llundain, carchar y dyledwyr. Yno y bu farw 29 Mawrth 1834. Priododd ddwywaith, (1) Harriet Emma, merch Syr Tyrwhitt Jones, a fu farw yn 1820, a (2), Caroline Mallett Giffard, a'i gadawodd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.