MOSTYN
(TEULU),
Talacre
,
sir y Fflint
.
Y mae
Mostyniaid
Talacre
yn disgyn o
Peter
(
Peyrs
,
Piers
)
, mab
Richard ap Howel
a'i wraig
Catherine
, merch
Thomas
Salusbury
,
yr hynaf
,
Llewenni
— am
Peter
a
Richard ap Howel
gw. yr erthygl ar
Mostyn
(Teulu),
Mostyn
. Crewyd y farwnigiaeth yn y teulu hwn yn
1670
, sef pan wnaethpwyd
EDWARD
MOSTYN
yn
farwnig
, ac erbyn heddiw y mae rhif y barwnigiaid yn 12. Aelod o'r teulu hwn oedd
FRANCIS
MOSTYN
(
1860
-
1939
), pedwerydd mab yr
8fed barwnig
. Daeth ef yn ‘
Vicar Apostolic of Wales
’ yn
1895
; gwnaethpwyd ef yn
esgob
‘
Menevia
’ yn
1898
; a bu'n
archesgob
Caerdydd
o
1921
hyd y bu f. ar
25 Hydref 1939
.
Llyfryddiaeth:
-
Hanes byr yn
History of the family of Mostyn of
Mostyn
a
, Llundain, 1925
;
- manylion llawnach yn llyfrau cyfeirio Burke, Debrett, Kelly, ac eraill;
-
marw-goffa yr archesgob yn
The Times
,
26 Hydref 1939
.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth