MOSTYN (TEULU), Mostyn Hall, Sir y Fflint, etc.

Yn ôl History of the Family of Mostyn of Mostyn, 1925, a gynullwyd gan y 3ydd barwn Mostyn a T. Allen Glenn, daeth y tir y saif plas Mostyn arno yn awr yn eiddo teuluol bum canrif yn ôl trwy briodas IEUAN FYCHAN (a fu farw 1457), Pengwern, Llangollen (a Thre Castell, sir Fôn) ag ANGHARAD, merch ac aeres HYWEL (neu Howel) AP TUDUR AB ITHEL FYCHAN (a gweddw Edward Stanley yn ôl NLW MS 1557C ). Ni allai awduron y gyfrol ddywedyd pa mor hir cyn hyn y bu'r tir hwn yn eiddo i hynafiaid Hywel, eithr tybient ei fod yn rhan o diroedd ei gyndad, sef Edwin o Degeingl. Yn 1301 talodd ITHEL wrogaeth i'r tywysog Edward, iarll Caer, am ei stadau yn Sir y Fflint. Daliai Hywel a'i ddisgynyddion arglwyddiaeth Mostyn ar brydles hyd y bu i Syr Roger Mostyn ddyfod i feddiant ohoni dros byth yn 1631. Pengwern, sir Ddinbych, lle y ganwyd Ieuan Fychan, ydoedd cartref gwreiddiol y teulu hwn. Daeth Gloddaeth, Sir Gaernarfon, i feddiant y teulu ychydig cyn 1460 trwy briodas HOWEL AP IEUAN FYCHAN (Mostyn a Pengwern) â Margaret, aeres Madog Gloddaeth (siryf Sir Gaernarfon, 1325-6), ac, fel y gwelir, daeth Bodysgallen, Sir Gaernarfon, hefyd yn un o blastai'r teulu

Rhoddir manylion o'r cenedlaethau cynnar yn yr History. Aeth Ieuan, pedwerydd mab Iorwerth Ddu (o deulu Pengwern), i wasanaeth yr Eglwys, o dan yr enw John Trevor.

Yn ôl y bardd Guto'r Glyn yr oedd IEUAN FYCHAN AP IEUAN AB ADDA (Pengwern a Mostyn) yn fardd ac yn delynor; gweler Phillipps MS. 2160 yn Llyfrgell Caerdydd a NLW MS 3027E (sef NLW MS 3027E ). O ochr ei fam yr oedd yn gyfyrder i Edmund, iarll Richmond, a Jasper Tudor, iarll Pembroke. Yn 1415 yr oedd yn ysgwïer yng ngosgordd Thomas Fitzalan, iarll Arundel a Surrey ac arglwydd y Waun (Chirk). Yr oedd ei fab, HOWEL AP IEUAN, yn bleidiol i hawliau teulu Lancaster; credir i'w gâr, Jasper Tudor, geisio lloches ym Mostyn yn 1464. Gwraig Howel oedd Margaret, merch ac aeres Gloddaeth.

Etifeddodd eu mab hwy, RICHARD AP HOWEL, Gloddaeth a Thre'r Garnedd, trwy ei fam. Dyma'r Richard ap Howel a oedd yn llywydd eisteddfod gyntaf Caerwys (1523); gydag ef yr oedd Syr WILLIAM GRUFFYDD a Syr Roger Salusbury, Llewenni, ac yr oedd y beirdd Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan a Tudur Aled yn cynorthwyo'r tri. Rhydd Thomas Pennant (Hist. of Whiteford) hanes ymweliad Harri o Richmond (y brenin Harri VII wedi hynny) â Mostyn. Bu Richard ap Howel yn ymladd dros Harri ym mrwydr Bosworth, ac ychydig cyn iddo farw (yn Mostyn ar 7 Chwefror 1539/40) bu'n rheithor segurswydd Whitford, Sir y Fflint.

Trwy ei wraig Catherine, merch Thomas Salusbury (yr hynaf), Llewenni, yr oedd Richard ap Howel yn dad Thomas (Mostyn), Hugh (a fu farw'n ieuanc), Peter (Peyrs, Piers), hynafiaid Mostyniaid Talacre, a phedair merch; o'r merched hyn daeth Janet yn wraig i'r bardd Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan.

THOMAS (MOSTYN) (bu farw 1558),

mab hynaf Richard ap Howel, oedd y cyntaf i'w adnabod wrth yr hyn a ddaeth, o hyn ymlaen, yn gyfenw'r teulu (gweler NLW MS 1560C ). Fel rhai o'i gyndadau, yr oedd Thomas Mostyn yn noddwr beirdd (Peniarth MS 100 , Cardiff MS. 64).

Bu ei fab hynaf ef, WILLIAM MOSTYN, yn gwasnaethu o dan William Herbert, iarll Pembroke, adeg gwrthryfel Wyatt. Bu'n aelod seneddol dros sir y Fflint ddwywaith (2 Mawrth 1553/4 a Tachwedd 1554), yn siryf Sir y Fflint deirgwaith, ac yn siryf Sir Gaernarfon unwaith (1566-7). Etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir y Fflint ar 8 Mai 1572 hefyd, ac yr oedd yn aelod hyd ei farw yn 1576. Yr oedd yn un o'r comisiynwyr a enwyd gan y frenhines Elisabeth i gynnal ail eisteddfod Caerwys, 1568; dywedir yn y comisiwn - ' William Mostyn esquior and his auncestors have had the gyfte and bestowing of the Sylver harpe appertayning to the Cheff of that facultie.' Bu farw 19 Medi 1576.

Mab hynaf William Mostyn o'i wraig gyntaf (Margaret, merch Robert Powel, Whittington) oedd THOMAS MOSTYN (1535? - 1618), Syr Thomas Mostyn yn ddiweddarach. Bu'n siryf Môn (ddwywaith), Sir y Fflint (ddwywaith), a Sir Gaernarfon (unwaith); bu hefyd yn ' Custos Rotulorum ' Sir Gaernarfon. Am fanylion pellach yn ei gylch - yr oedd, e.e., yn aelod o Gyngor y Goror, 1603-18 - gweler yr History a Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers, etc. Credir iddo wneuthur ychwanegiadau at Blasty Gloddaeth; gwyddys iddo gasglu llyfrgell fawr.

Aer Syr Thomas Mostyn oedd ei ail fab Syr ROGER MOSTYN (1559/60 - 1642). Cafodd ei addysg yn Rhydychen (ymaelododd yng Ngholeg Brasenose 8 Mai 1584) ac yn Lincoln's Inn (1588). Bu'n siryf Môn, 1589-90, Sir y Fflint, 1608-9, 1626-7, aelod seneddol sir y Fflint, 1621-2, a gwnaethpwyd ef yn farchog 23 Mai 1606. Priododd, 1596/7, Mary (1581 - 1653), merch hynaf Syr John Wynn o Wydir. Ceir ei enw'n fynych, felly, yn y Calendar of Wynn Papers; gweler e.e. hanes y rhan a gymerth yn yr anghydfod rhwng ei dad-yng-nghyfraith a'r esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl yn yr iaith Gymraeg, ynglŷn â phrydlesoedd Llanrwst. Ymddengys mai ef oedd y pwysicaf o ddirprwy-raglawiaid Sir y Fflint mewn cyfnod pryd yr oedd mynych geisiadau a gorchmynion yn dyfod i'r sir oddi wrth arglwydd lywydd Cyngor y Goror. Bu farw 18 Awst 1642.

Bu ei fab hynaf, Thomas Mostyn (c. 1598 - 1641), farw flwyddyn o'i flaen. Ymhlith meibion eraill Syr Roger yr oedd William Mostyn, archddiacon Bangor, a Richard Mostyn (bu farw 1627), milwr a fu'n gwasnaethu yn Iwerddon, yr Iseldiroedd, etc.

Ceir manylion am y THOMAS MOSTYN a fu farw yn 1641 yn yr History ac yn y Calendar of Wynn Papers. Priododd Elizabeth, merch Syr James Whitelock, prif farnwr Caer. Wedi priodi bu'n byw yn Cilcain, Sir y Fflint, a threulio llawer o'i amser yn Llundain hefyd. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1623 ar gais dug Buckingham.

Ei fab hynaf ef oedd Syr ROGER MOSTYN (1623/4 - 1690), marchog a barwnig. Er nad oedd yn 20 oed pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan daeth yn gapten yn fuan, ac yn gyrnol ymhen ychydig fisoedd wedi hynny. Penododd Siarl I ef yn llywiawdr castell a thref Fflint. Am yr ychydig flynyddoedd nesaf y mae ei hanes fel person unigol yn gymysg â'i fywyd a'i weithredoedd fel swyddog ym myddin plaid y brenin; gweler yr History; J. R. Phillips, Civil War in Wales; Calendar of Wynn Papers; Whitelock, Memorials; a Henry Taylor, ' The Flintshire Militia, with a short biography of Sir Roger Mostyn … its first Colonel,' yn Jnl. of the Chester Archaeol. and Hist. Soc., 1891. Yr oedd ei ŵyr yn amcangfrif i'w daid golli tua £60,000 yn ystod y rhyfel. Yr oedd mewn cyswllt agos â'r gwŷr a geisiai adfer y frenhiniaeth. Wedi'r Adferiad fe'i gwnaethpwyd yn farchog, dewiswyd ef yn un o'r gwŷr a oedd i'w gwneuthur yn farchogion Urdd y Royal Oak, cafodd ei ddyrchafu'n farwnig (3 Awst 1660), a daeth yn ddirprwy-raglaw Sir y Fflint. Pan aeth dug Beaufort, llywydd Cyngor y Goror, ar ei daith rwysgfawr trwy Gymru yn 1684, fe'i croesawyd ym Mostyn gan Syr Roger; treuliodd y llywydd ddydd Iau, 24 Gorffennaf, ' in viewing the lands and various works and Machines of the Lead & Colemines belonging to Sir Roger Mostyn … ' (Thomas Dineley, The Beaufort Progress; sylwer ar y darlun o blasty Mostyn ac o un o'r peiriannau codi glo). Yn 1687 perswadiwyd y brenin Iago II gan ei wraig Mary (o Modena) i drosglwyddo capel Gwenfrewi, Holywell, iddi hi, ac ysgrifennodd y frenhines at Syr Roger Mostyn i ofyn iddo drefnu cario allan ei dymuniadau hi ynglŷn â'r capel. Bu Syr Roger farw ym Mostyn ar 4 Hydref 1690. Buasai'n briod deirgwaith: (1), c. Gorffennaf 1642, â Prudence, merch Syr Martin Lumley; (2) Mary, merch hynaf Thomas, is-iarll Bulkeley, Baron Hill, sir Fôn; a (3), Lumley, merch hynaf George Coetmor, Coetmor.

Aer Syr Roger Mostyn, y barwnig 1af, oedd Syr THOMAS MOSTYN (1651 - 1700?), mab o'r ail wraig. Cafodd ei addysg yn Christ Church, Rhydychen (ymaelododd 15 Mai 1667). Yr oedd yn noddwr i'r celfau cain ac ychwanegodd lawer o gyfrolau at lyfrgelloedd Gloddaeth a Mostyn. Bu'n ddirprwy-raglaw Sir Gaernarfon c. 1673, yn siryf y sir honno 1689, sir Fôn 1691-2 a bu'n aelod seneddol dros sir Gaernarfon (1673 ', Chwefror 1678/9, Awst 1679, a 1681). Yn 1689 enwyd ef yn un o gomisiynwyr trethi'r Llywodraeth yn Sir y Fflint. Priododd Bridget, merch D'Arcy Savage, Leighton, sir Gaer, a bu saith mab a phedair merch o'r briodas; ymysg y meibion yr oedd Roger, a'i dilynodd, Thomas, aelod seneddol dros Fflint, a John, a fu yn Ysgol Westminster ac yn Christ Church, Rhydychen. Yr oedd Syr Thomas yn gyfeillgar iawn â William Lloyd, esgob Llanelwy - un o'r 'Saith Esgob'; gofynnai gyngor yr esgob ar bwnc addysg ei blant. Ceir caniadau iddo gan feirdd Cymreig yn NLW MS 3027E . Yr oedd yntau'n enwog fel casglwr llawysgrifau Cymraeg gyda gogwydd arhennig tuag at astudio achau.

Aer Syr Thomas Mostyn oedd Syr ROGER MOSTYN (1673 - 1734), y 3ydd barwnig. Bu yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelododd 10 Chwefror 1689/90). Etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir y Fflint, 1701 a dychwelwyd ef dros y sir a thros fwrdeisdrefi'r Fflint yn 1702, eithr dewisodd eistedd dros Gaer yn y Senedd honno. Yn y Senedd nesaf (1705-8) etholwyd ef dros sir y Fflint a bu'n eistedd dros y sir hyd 1734 (oddieithr yn 1713 pan eisteddai dros y bwrdeisdrefi). Disgrifir ei yrfa seneddol - Tori ydoedd - yn yr History. Priododd, 1703, Lady Essex Finch, merch Daniel, iarll Winchilsea, a bu iddynt chwe mab a chwe merch. Ymhlith y meibion yr oedd Thomas Mostyn, yr aer, John Mostyn, a ddaeth yn gadfridog ym myddin Prydain, a Savage Mostyn, a ddaeth yn is-lyngesydd ('Vice-Admiral of the Blue'), yn 'Comptroller' y llynges, ac yn un o arglwyddi y morlys; am hanes y milwr a'r morwr gweler yr History a'r D.N.B. Dewiswyd Syr Roger yn gwnstabl castell y Fflint. Y mae The Constant Couple, drama gan George Farquhar, wedi ei chyflwyno iddo. Bu farw 5 Mai 1734.

Fel ei daid, yr oedd y 4ydd barwnig, Syr THOMAS MOSTYN (1704 - 1758), mab y 3ydd barwnig a Lady Essex Finch, yn ymddiddori'n fawr mewn llenyddiaeth. Cyn iddo briodi Sarah, merch Robert Western, Llundain, bu'n trafaelio trwy wahanol wledydd yn Ewrop - bu allan o'r wlad o fis Hydref 1723 hyd fis Mai 1728. Bu iddo ef a'i wraig bedwar mab a phum merch; un o'r merched oedd Anne, a briododd Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r trafaeliwr. Dewiswyd Syr Thomas yn aelod seneddol dros sir y Fflint yn 1734, 1747, a 1754. Casglodd lyfrau a llawysgrifau. Bu farw 24 Mawrth 1758.

Ganwyd ei fab ef, Syr ROGER MOSTYN (1734 - 1796), y 5ed barwnig, 13 Tachwedd 1734. Dilynodd ei dad fel cynrychiolydd y sir yn y Senedd, ac yr oedd yn aelod hyd ei farw. Daeth hefyd yn arglwydd-raglaw y sir, ac yr oedd yn un o is-lywyddion y Welsh Charity School, Llundain. Priododd y 5ed barwnig, 12 Mai 1766, Margaret, ferch y Parch. Hugh Wynn, Bodysgallen a Berthddu, a'i wraig Catherine, chwaer William Vaughan, Corsygedol (gweler Vaughan, Corsygedol, Sir Feirionnydd), ac aeres Robert Wynn, Bodysgallen. Ymysg y plant o'r briodas hon yr oedd (1) Elizabeth, a briododd Syr Edward Pryce Lloyd, Pengwern, Sir y Fflint, a Bodfach, Sir Drefaldwyn, barwnig (isod); (2) Thomas Mostyn, yr aer; a (3) Anna Maria, a briododd, yn 1802, Syr Robert Williames Vaughan, Nannau, Sir Feirionnydd, barwnig. Yr oedd Syr Roger hefyd yn ymddiddori yn llenyddiaeth a hanes Cymru : cyflwynodd Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') ei Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards iddo. Bu farw 26 Gorffennaf 1796.

Cadwodd y 6ed barwnig, Syr THOMAS MOSTYN (1776 - 1831), at draddodiad y teulu ynglŷn â chynrychioli sir y Fflint yn y Senedd. Bu'n siryf Sir Gaernarfon, 1798, a Sir Feirionnydd, 1799. Bu farw yn ddibriod 17 Ebrill 1831, daeth y teitl i'w derfyn, ac aeth y stadau yn eiddo i Syr Edward Pryce Lloyd (1768 - 1854) (isod), y barwn Mostyn 1af (crewyd 10 Medi 1831).

Rhoddir tras teulu Lloyd yn llyfrau Burke, Debrett, etc., ar y bendefigaeth, etc. Buasai'r teulu â chysylltiad â siroedd y Fflint a Dinbych ers canrifoedd. Bu Syr EDWARD LLOYD (1710? - 1795), y barwnig 1af, yn ysgrifennydd rhyfel. Ar 29 Awst 1778 y gwnaethpwyd ef yn farwnig, ac yr oedd y teitl i fynd i'w nai Bell Lloyd. Eithr bu ef farw ar 6 Mai 1793, sef o flaen ei ewythr. Pan fu'r barwnig 1af farw aeth y teitl a'r stadau i'w or-nai, Syr EDWARD PRYCE LLOYD (1768 - 1854), yr ail farwnig, mab Bell Lloyd, Pontriffith; yr oedd i'r Bell Lloyd hwn ail fab, yntau'n Bell Lloyd, a oedd yn amaethydd goleuedig. Priododd y 2il farwnig Elizabeth, trydedd merch Syr Roger Mostyn, y 5ed barwnig; yr oedd hi yn chwaer Syr Thomas Mostyn, y 6ed barwnig ac yn gyd-aer ag ef, a chan iddo ef farw'n ddibriod (ar 17 Ebrill 1831) daeth stadau Mostyn i feddiant gwr Elizabeth, sef Syr EDWARD PRYCE LLOYD, a ddaeth yn farwn 1af Mostyn, ac a etifeddodd holl stadau Mostyn. Hyn sydd yn cyfrif paham y mae ymhlith y Mostyn MSS. a ddaeth i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1918 lawysgrifau a fu yn llyfrgelloedd Gloddaeth, Corsygedol, Nannau, etc.

Bu 2il farwn Mostyn farw 3 Ebrill 1854 a dilynwyd ef gan ei fab hynaf, EDWARD LLOYD (1795 - 1884), yr ail farwn Mostyn, arglwydd-raglaw Sir Feirionnydd. Ychwanegodd ef ' Mostyn ' at y cyfenw ' Lloyd.'

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.