MORYS
,
HUW
(‘
Eos Ceiriog
’;
1622
-
1709
),
bardd
;
ail fab
Morris ap John ap John ab Ednyfed
o'r
Hafodgynfor
ym mhlwyf
Llangollen
,
sir Ddinbych
. Er iddo dreulio'r rhan helaethaf o'i oes faith ym
Mhontymeibion
ym mhlwyf
Llansilin
, fe ymddengys nad yno y ganed
Huw
, eithr iddo symud yno gyda'i dad a gweddill y teulu
tua 1647
. Gwyddom fod i'w daid,
John ap John
, diroedd yng nghymydau
Rhiwlas
a
Hafodgynfor
, pan briododd â
Gwen
, ferch
Thomas ap Llywelyn ap John
o'r
Rhiwlas
. Hyd y gwyddom, yr oedd gan y
bardd
ddau frawd,
John
yn hŷn nag ef (gydag ef y cartrefai
Huw
, hyd y gellir barnu), a
Humphrey
a oedd yn iau nag ef. Nid oes sicrwydd iddo dderbyn addysg well na'r cyffredin o fechgyn ei fro, er y mae'n bosibl iddo fynychu
ysgol rad Croesoswallt
neu
ysgol ramadeg Rhuthyn
am gyfnod. Mewn cerdd, ‘
Ar ofyn gostegion yn amser Cromwel
,’ cwyna oherwydd ei brentisio saith mlynedd i ‘ddysgu trad,’ ac fe ymddengys mai
dyma'r unig dystiolaeth i gefnogi'r traddodiad am ei brentisio yn
farcer
yn y
Gwaliau
yn ardal
Owrtwn
,
sir y Fflint
. Dywedir iddo dorri ar ei brentisiaeth a dychwelyd adref i helpu ei dad hefo
gwaith y fferm
. Y mae'n sicr, fodd bynnag, iddo dderbyn nawdd uchelwyr cylch
Llansilin
. Sonia amdano'i hun yn derbyn nawdd
Syr
William
Williams
,
Glasgoed
(
‘Llefarydd’ y Senedd
),
Myddeltoniaid
Castell y Waun
,
William
Owen
,
Brogyntyn
, ac eraill.
Eglwyswr
selog a
Brenhinwr
taer iawn fu
Huw
, yn dal swydd
warden
yn
eglwys Llansilin
, ac yn dwrdio ‘comiti
Gwrecsam
’ ar yn ail â chanu clod y teulu brenhinol gydag arddeliad mawr. Osgôdd ef y driniaeth arw a gafodd
Wiliam
Phylip
,
Ardudwy
[q.v.]
, a
Rowland
Fychan
,
Gaer Gai
[q.v.]
, am iddo fod yn ochelgar ei feirniadaeth yn ystod cyfnod y
Weriniaeth
, gan ddefnyddio hen arfer beirdd y cerddi brud o roddi enwau anifeiliaid ar ei gymeriadau. Lluniodd
Huw
Morys
ei gerddi i'w canu ar donau adnabyddus, ac wrth hynny daethant yn adnabyddus iawn trwy
Gymru
. Fe'i claddwyd
31 Awst 1709
wrth ystlys ddehau
eglwys Llansilin
. Ym mur yr eglwys uwchben ei fedd gosodwyd ffenestr liw ac arni ei englynion cyffes, ac un arall i'w goffáu ym mur ddwyreiniol yr eglwys. O flaen
Pontymeibion
codwyd cofgolofn arall. Canodd
Huw
Morys
nifer o gywyddau yn ôl patrwm cywyddwyr y
15fed g.
, ond ni pherthyn iddynt mo'r praffter na'r naws urddasol a geir yng ngweithiau clasurwyr fel
Tudur Aled
. Ei gamp ef oedd dwyn i fri fath newydd o ganu, sef canu rhydd acennog wedi ei gynganeddu. O ran ffurf a deunydd y mae'n aml yn nes at safonau'r cywyddau nag i'r corff o brydyddiaeth a elwir yn ganu rhydd, ac am hynny fe'i gelwir hyd heddiw yn ganu rhydd cynganeddol. Trwy odlau mewnol a chytseinedd fe gaed ar y cychwyn benillion cyfain yn llawn o gynganeddion sain. Datblygwyd hyn ymhellach hyd onid aeth pob pennill yn gywreinwaith mydryddol, a'i effaith seiniol yn bwysicach na'r ystyr. Canwyd marwnadau, cerddi serch, cerddi gofyn, a charolau Mai a'r Plygain ar y patrwm hwn, a chan mai ef (fe ymddengys) a roddodd fri (onid yn wir gychwyn) i'r math yma o brydyddu, fe'i gelwir yn aml yn ‘fath
Huw
Morys
o ganu.’ Yr enwocaf o ddigon o'r cerddi hyn yw ‘
Marwnad Barbra Miltwn
.’ Ysgrifennodd
Huw
Morys
hefyd o leiaf ddwy anterliwt, sef ‘
Y Rhyfel Cartrefol
’ a ‘
Y Mab Afradlon
,’ ac y mae ar gael gopïau o gerddi sy'n awgrymu iddo lunio un anterliwt arall ar destun ‘
Y Cogiwr
.’ Yn
1823
cyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth yn ddwy gyfrol gan
Walter
Davies
(‘
Gwallter Mechain
’)
o dan y teitl
Eos Ceiriog, sef casgliad o bêr ganiadau Huw Morus.…
Ni chynnwys hwn ond y deuparth o'i waith a gadwyd mewn llawysgrifau, ac nid yw'r testun bob amser yn gywir wrth y llawysgrifau gorau — ac y mae un o'r rheini, sef
Cwrtmawr MS. 224
(sydd yn awr yn
Ll.G.C.
), gan mwyaf yn llawysgrif y
bardd
ei hun. Cyhoeddodd
O. M.
Edwards
hefyd ddetholiad o'i waith yng ‘
Nghyfres y Fil
.’
Awdur:
Dr David Jenkins, C.B.E., M.A., D.Litt., (1912-2002), Penrhyn-coch,
Aberystwyth