Problem fwyaf ei olynydd, EDMUND MORTIMER , oedd gwrthryfel Rhys ap Maredudd o Ystrad Tywi , a gorchmynnwyd iddo yn aml yn y blynyddoedd 1287-8 weithredu yn erbyn y gwrthryfelwr . Bu f. 1304 . Cydweithiai mab Edmund , sef ROGER MORTIMER (yn ddiweddarach iarll March ) â'i ewythr Roger , arglwydd y Waun [q.v.] , a rhyngddynt dyrchafwyd y teulu i safle uchel iawn. Ofnent dwf eu gelynion mawr, y Despensers , yn Ne Cymru , ac mewn cweryl rhwng iarll Henffordd a Hugh le Despenser yn 1321 ynglŷn â meddiannu Gŵyr cymerasant ran iarll Henffordd . Ymladdwyd yn llwyddiannus yn y De, ond yn Ionawr 1321/2 , wedi iddynt gymryd arfau yn erbyn y brenin , trechwyd a charcharwyd y ddau. Pan goronwyd Edward III , fodd bynnag, enillodd Roger Mortimer o Wigmore fwy o ffafr nag erioed. Ar 20 Chwefror 1326/7 apwyntiwyd ef yn ustus Cymru ac esgobaeth Llandaf tra rhyngai fodd y brenin . Ailapwyntiwyd ef i Landaf ar 4 Awst 1328 , a gwnaed ef yn ustus Cymru am ei oes ar 27 Awst 1328 . Sicrhawyd y swydd o ustus Cymru iddo ar 4 Tachwedd 1328 , ar ôl ei ddyrchafu'n iarll March , a'r un dydd apwyntiwyd ef yn ustus esgobaeth Tyddewi am ei oes. Ym mis Mehefin 1327 gwnaed ef yn geidwad tiroedd yn ‘ Glamorgan and Morganwg ’ tra rhyngai fodd y brenin , ac ym mis Medi 1327 rhoddwyd iddo diroedd gwerth £1,000 y flwyddyn, yn cynnwys castell Dinbych a thiroedd sied iarll Arundel yng Nghymru . Gwnâi ei safle swyddogol a'i diroedd eang ef bron yn feistr yng Nghymru hyd ei ddienyddio yn 1330 fel bradwr. Dilynwyd ef gan ei ŵyr, ROGER MORTIMER ( 1327? - 1360 ), ac er i'r taid golli ffafr fel bradwr, trosglwyddwyd y tiroedd ar y Goror i'r ŵyr ymhen amser. Ar ei ôl ef daeth ei fab EDMUND MORTIMER ( 1351 - 1381 ), a briododd Philippa , ferch Lewnel ( Lionel ), dug Clarence , a'i wraig Elisabeth de Burgh (o Gaerlleon-ar-Wysg a Brynbuga ); mab iddynt hwy oedd Roger de Mortimer ( 1374 - 1398 ) [q.v.] a mab arall oedd EDMUND MORTIMER ( 1376 - 1409? isod). Pan fu Roger de Mortimer farw yr oedd ei fab EDMUND MORTIMER ( 1391 - 1425 ) o dan oed, ac mewn canlyniad brawd Roger , Edmund (uchod), oedd prif gynrychiolydd y teulu ar y Goror . Ar ddechrau gwrthryfel Owain Glyndŵr unodd Edmund a'i frawd-yng-nghyfraith, Henry Percy , yn erbyn y gwrthryfelwr . Carcharwyd ef, fodd bynnag, yn 1402 , ac yn ystod ei garchariad priododd â Chatherin , merch Glyndŵr . Ymunodd â chynlluniau'r Cymro , ac yn y cytundeb enwog rhwng Mortimer , Glyndŵr , a iarll Northumberland , yr oedd Mortimer i gael de Lloegr . Ofer oedd y cynllunio, a bu farw yn amddiffyn castell Harlech , 1409? . Bu ei nai Edmund f. yn 1425 a throsglwyddwyd y stadau i Risiart , dug Efrog , mab ANNE MORTIMER (chwaer Edmund ) a Rhisiart , dug Caergrawnt . Teulu'r Richard hwn a adwaenir fel ‘teulu York ’ yn ein llyfrau ar hanes ‘ Rhyfel y Rhosynnau ’; ond i'r Cymro , eu cyswllt â'r Mortimeriaid (a'u tarddiad, pell yn ôl, o Wladus Ddu , ferch Llywelyn Fawr ), a'r adnoddau tirol ac ariannol a milwrol yng Nghymru a ddug y cyswllt hwnnw iddynt, sy'n cyfrif fwyaf. Nid ‘ Lancaster a York ’ oedd y ddwy blaid i'r Cymro , eithr ‘ Tudur ( Penmynydd )’ a ‘ Mortimer ’; ac yn y de-ddwyrain a'r Goror (h.y. yn nhiroedd eang y Mortimeriaid ) yr oedd nerth plaid ‘ York ’ yng Nghymru — gw . dan ‘ Herbert (Teulu), Trefaldwyn . ’
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth