MORTIMER, ROGER de (1374 - 1398), y chweched Rhosier o'r teulu, y 4ydd iarll y Mars ('March'), a'r 4ydd iarll Wlster

Enw: Roger De Mortimer
Dyddiad geni: 1374
Dyddiad marw: 1398
Plentyn: Anne Mortimer
Plentyn: Edmund de Mortimer
Rhiant: Philippa Mortimer
Rhiant: Edmund de Mortimer
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Mrynbuga 11 Ebrill 1374, yn fab i Edmund de Mortimer (gweler yr ysgrif ar deulu Mortimer) a'i wraig Philippa ferch Lewnel (Lionel) dug Clarens (ail fab y brenin Edward III - y mae'r briodas yn bwysig, gan mai drwyddi hi yr hawliai ei disgynyddion y flaenoriaeth ar deulu ' Lancaster,' disgynyddion trydydd mab y brenin hwnnw). Bu farw rhieni Rhosier pan nad oedd ef ond plentyn, ac felly bu ei stadau dan warchodaeth faith a gofalus; pan ddaeth i'w oed (1393) yr oedd yn oludog dros ben: ' mawr yw'r cefn, mwy yw'r cyfoeth,' meddai Iolo Goch amdano - y 'cefn' o 40,000 morc o arian, a'r 'cyfoeth' o diroedd eang, gan gynnwys (ymhlith tiroedd eraill) arglwyddiaethau Brynbuga a Chaerllion-ar-Wysg a Dinbych yng Nghymru, a Wigmor a Llwydlo ar y Goror. Ymhelaetha'r croniclydd Adam Usk (gŵr a oedd dan ddyled i'r Mortimeriaid) ar ei olud a'i ysblander, a disgrifir ef gan fwy nag un tyst fel dyn hynod ddewr, hael, a rhadlon, ond gyda hynny llac ei fuchedd. Gan fod Rhisiart II yn ddiblant, yr oedd y gydymgais am ei orsedd ar ei ôl eisoes yn corddi rhwng disgynyddion eraill Edward III, a chymerth Rhisiart gam pwysig yn 1385 pan gydnabu Rosier Mortimer fel ei aer, a'i urddo'n farchog yn 1390; yn 1397 enwodd ef hefyd yn ddirprwy ar holl Iwerddon. Efallai mai hyn fu achlysur cywydd Iolo Goch iddo - yr oedd Iolo, ac yntau'n ddyn o ochrau Dinbych, yn un o'i ddeiliaid. Ymollwng y bardd i ganmol ei bennaeth am ei ragoriaethau a'i feddiannau. A rhydd bwyslais mawr hefyd ar ei gysylltiadau Cymreig. Nid yn unig y mae Rhosier yn aer coron Lloegr - yn 'ŵyr Syr Lewnel ' ac yn 'ail rhyswr yn ôl Rhisiart ' - ond hefyd, pan ddaw'r adeg, 'coronir câr i Wynedd '; y mae ganddo hawl i 'dalaith Aberffraw,' ac y mae'n hen bryd iddo ddyfod i 'Gymru, lle rhyglyddi glod.' Ys gwir ei bod hi'n gofyn cryn ddychymyg i edrych ar Rosier fel etifedd Aberffraw, ar sail priodas, mor bell yn ôl â 1230, rhwng Gwladus Ddu, ferch Llywelyn Fawr, a Ralph de Mortimer; ond yr oedd yr edefyn main hwn yn ddigon da i'w wau i mewn i bropaganda yr oedd iddo gadarnach defnydd. Y mae'n bwysig inni gofio mai ymhell iawn ar ôl hyn y digwyddodd y ddamwain ramantus a gysylltodd Duduriaid Penmynydd (prif noddwyr Iolo ei hunan) â ffawd teulu ' Lancaster '; ar y pryd, nid oedd arlliw o gydymgais yn 1385 rhwng Penmynydd a Mortimer, ac i aer cydnabyddedig Rhisiart (cyn- dywysog Cymru ac olynydd Edward III - yntau'n wrthrych cywydd, gynt, gan Iolo) yr oedd gwrogaeth 'hil Ednyfed,' arweinyddion swyddogaeth Gymreig y Dywysogaeth, yn naturiol ddyledus. Eithr ni ddaeth dim o freuddwydion Rhosier, nac o freuddwydion Iolo ar ei ran. Oerodd y carueiddiwch rhwng y brenin ac yntau - y mae'n anodd bod yn sicr beth oedd ei safle yn y cynllwynio annelwig a gronnai yn llys Rhisiart. Ond sut bynnag, lladdwyd ef mewn ysgarmes yn Kells (Iwerddon), 15 Awst 1398; holltwyd ei gorff yn ddarnau, ond fe'u casglwyd ynghyd i'w claddu ym meddrod ei deulu yn Wigmor. Eto, gellir canfod wedyn ryw ddisgwyliad yng Nghymru y dewisai Rhisiart ei aer o'r teulu hwn; ac fe all yn hawdd fod y disgwyliad hwn yn un o amryfal achosion y rhyfel a gymerth arno, pan ddaeth, enw Owain Glyndŵr; unwaith eto, nid oedd mewn golwg, ar y pryd, unrhyw reswm i deulu canghennog Penmynydd ochri gyda Harri IV, treisiwr 'hawl' y Mortimeriaid; ac yn wir, credai llawer yng Nghymru fod Rhisiart II eto'n fyw (E.H.R., xxxii, 560; Lloyd, Owen Glendower, 28, 53, 69).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.