MORRIS, WILLIAM (circa 1816? - 1886), cyhoeddwr llyfrau a chylchgronau Eglwysig ac argraffydd

Enw: William Morris
Dyddiad geni: circa 1816?
Dyddiad marw: 1886
Plentyn: W. Morris
Plentyn: Rupert Hugh Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyhoeddwr llyfrau a chylchgronau Eglwysig ac argraffydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David Myrddin Lloyd

Yn ôl Cyfrifiad 1851 trigai yn 47 High Street, Holywell. Disgrifia'i hun fel llyfrwerthwr 35 oed yn cyflogi chwe gweithiwr.

Ef oedd cyhoeddwr Yr Eglwysydd o'r cychwyn yn 1847, yn Nhreffynnon hyd 1860, ac ar ôl hynny parhaodd i gyhoeddi'r misolyn hwn yn Ninbych. Bu hefyd yn cyhoeddi 'r Cymro, wythnosolyn Eglwysig a Cheidwadol, yn y ddwy dref uchod. Ef hefyd a ysgrifennai lawer o gynnwys y ddau gyhoeddiad hyn. Yr oedd hefyd yn llyfrwerthydd ac yn siaradwr rhugl yn y ddwy iaith. Yn Ninbych, lle bu fyw o 1860 ymlaen, daeth yn aelod o'r cyngor trefol, yn ustus heddwch, ac yn bostfeistr, heblaw parhau'n argraffydd, cyhoeddwr, a llyfrwerthydd.

Bu'n briod ddwywaith, a chafodd dri o feibion ac un ferch. Ei fab hynaf oedd y canon W. Morris, caplan i ddug Westminster yn Eaton Hall, sir Gaer; ei ail fab oedd y canon Rupert Hugh Morris (1843 - 1918), a fu'n olygydd Archæologia Cambrensis

Bu farw ar ôl hir waeledd ar 8 Hydref 1886 yn ei gartref, ' Gwilymfod,' a'i gladdu ym mynwent yr Eglwys Wen, Dinbych. (Anghywir yw'r adroddiad yn Y Faner iddo fyw 40 mlynedd yn Ninbych; ac yn ôl yr un adroddiad yr oedd yn 85 yn marw. Yn ôl Bye-Gones, 74 oedd ei oed.)

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.