MORRIS
,
WILLIAM
(
1705
-
1763
),
llythyrwr a llysieuegwr
,
3ydd mab
Morris ap Rhisiart Morris
(
Morris
Prichard
)
[q.v.]
, a brawd i
Lewis
,
Richard
, a
John
Morris
(gw. yr ysgrifau arnynt); g.
6 Mai 1705
yn y
Fferem
,
Llanfihangel Tre'r Beirdd
. Awgryma ef ei hunan mai gŵr tal main ydoedd; efallai ei fod hefyd yn gwargrymu, oblegid y mae ei nai
John
Owen
[q.v.]
yn ei lysenwi'n ‘
Gwilym Gam
' — ond efallai hefyd mai ei ‘grintachrwydd’ a oedd wedi digio ei nai hoyw; nid oedd haelfrydedd ei frawd
Richard
gan
William
, nac ychwaith athrylith bigog ei frawd
Lewis
; odid nad ‘
dyn mwyn-galed
’ oedd ef, â mwy o synnwyr cyffredin na'i frodyr. Gwyddys iddo'n ifanc fwrw cryn amser yn
Lerpwl
(yr oedd yno yn
1726
, beth bynnag), ond yn
Chwefror 1737
penodwyd ef yn
gasglydd y doll
ym
mhorthladd Caergybi
(yn ddiweddarach cafodd fân
swyddi cyllidol
eraill gyda hon), ac yn
1758
daeth yn
rheolwr (Comptroller of Customs’)
yno — yr oedd yn y cyfamser (
1742
) wedi gwrthod bod yn
brif glerc
yn y dollfa
yng
Nghaerlleon-fawr
. Felly yng
Nghaergybi
y bu o
1737
hyd ei farw; yr oedd yn ‘
feddyg gwlad
’ answyddogol ac yn cael galw arno'n aml hefyd am help mewn
materion o gyfraith
neu o fusnes. Ei gyfaill pennaf yng
Nghaergybi
oedd
Thomas
Ellis
[q.v.]
,
curad y plwyf
, nes symudwyd hwnnw i
Nutfield
yn
1759
; ac yr oedd
William
Morris
yn
gôrfeistr yn y llan
, a chanddo
ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth gysegredig
. Yn wir, ef oedd yr unig un o'r brodyr y breuddwydiodd neb am briodoli emyn (sef ‘
Golchwyd Magdalen yn ddisglair
’) iddo, er y carem sicrach prawf o'r awduraeth. Cyfranogai hefyd, yn llawn, o atgasedd
Thomas
Ellis
at y
Methodistiaid
. Efallai mai pwnc arbennig
William
Morris
oedd
llysieueg
(er ei fod hefyd yn
naturiaethwr
cyffredinol da); yr oedd ganddo
wybodaeth anarferol o lysiau
, ac ar ei waith ef yn bennaf y seiliwyd
Welsh Botanology
Hugh
Davies
o
Aber
[q.v.]
. Yr oedd' hefyd, fel ei frodyr, yn
gasglwr a chopïwr llawysgrifau
, ac yn neilltuol falch o'r ‘
Delyn Ledr
’ y bu bron iddi fynd ar ddifancoll o ddwylo diofal
Goronwy
Owen
. Perchid ei wybodaeth a'i farn ar faterion
Cymraeg
gan ei frodyr, a chymerai yntau ddiddordeb mawr yng
Nghymdeithas y Cymmrodorion
— ef, i bob pwrpas, a ddewisodd ‘aelodau gohebol’ cyntaf y gymdeithas. Hysbys yw ei ran yn ‘narganfyddiad’
Goronwy
Owen
a
‘
Robin Ddu yr Ail o Fôn
’ (
Robert
Hughes
) [q.v.]
. Ond fel
llythyrwr
y mae
William
Morris
yn wir bwysig — ei lythyrau ef yw dwy ran o dair o gasgliad
J. H.
Davies
. Darlunir holl fywyd
Môn
yn y llythyrau hyn, a hwy yw'r ffynhonnell bwysicaf ar hanes cymdeithasol yr ynys yn y
18fed g.
Priododd (yn
1745
) â
Jane
, ferch ac aeres
Robert
Hughes
o
Lanfugail
(
J. E.
Griffith
,
Pedigrees
, 41); bu hi f.
1 Mai 1750
. Bu mab a merch o'r briodas hon fyw. Priododd y mab (hynaf),
ROBERT
MORRIS
(a aned
9 Mawrth 1746
), â
Jane
Parry
(gweddw, o
deulu
Bulkeley
o'r
Brynddu
— gw.
J. E.
Griffith
, op. cit., 33); gwerthodd ei gyfran o stad
Llanfugail
ac aeth i fyw yng
Nghaergybi
. Bu'r ferch,
JANE
(
JONES
)
(
1749
-
1833
), a aned
12 Chwefror 1749
, yn briod ddwywaith, y tro cyntaf â
John
Jones
,
ecseismon
yng
Nghaernarfon
, a'r ail dro â
Thomas
Jones
,
swyddog yn nhollfa
Biwmares
(
J. E.
Griffith
, op. cit., 41), ond bu farw'n weddw,
21 Chwefror 1833
(
Camb. Quart. Mag.
, v, 311) — ganddi hi y cafwyd y llythyrau a sgrifennodd
Goronwy
Owen
at ei thad (gw. y rhagymadrodd i argraffiad
J. H.
Davies
o'r
Letters of Goronwy Owen
). Sonia llythyrau
William
Morris
lawer am ei blant. Bu ef f.
29 Rhagfyr 1763
— yr oedd i bob pwrpas ar ei wely angau pan fu farw ei dad, ac yn analluog i fynd i'r angladd; ei lythyr yn hysbysu hynny i
Lewis
Morris
oedd ei lythyr olaf un sydd gennym,
12 Tachwedd 1763
.
Llyfryddiaeth:
-
The Letters of Lewis, Richard, William, and
John Morris, of Anglesey, (Morrisiaid Môn) 1728-1765
,
1907–9
(gol.
J. H. Davies
; mynegeion gan Hugh Owen);
-
Additional Letters of the Morrises of
Anglesey (1735-86). Y Cymmrodor
, xlix, 1947-9
(gol.
Hugh Owen
)=
Y Cymmrodor
, xlix;
- a'r cyfeiriadau yng nghorff yr ysgrif.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor