MORRIS, THOMAS (1786 - 1846), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yng Nghasnewydd

Enw: Thomas Morris
Dyddiad geni: 1786
Dyddiad marw: 1846
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 10 Chwefror 1786 ym mhlwyf Llandeilo-fawr. Oblegid golygiadau Arminaidd Llandyfân, lle'r ymaelodasai, aeth i Gwmifor, a dechrau pregethu yn 1803. Priododd yn 1809. Gweinidogaethodd ym Mhenrhiwgoch (1810-7); helaethodd y capel a ffurfiodd eglwysi Melingwm a Phorthyrhyd. Bu yn Charles Street, Casnewydd (1817-31), gan helaethu'r cysegr a chodi addoldai'r Nash, Pye Corner ger Maesaleg, a Chasnewydd (Saesneg). Bu wedyn ym Mryste a phrynu capel Pithay; ym Moorfields (Llundain) a'i atgyweirio; ym Mhontypŵl, a chodi'r Tabernacl; ym Mhont-faen; yng Nghaersalem Newydd a gorffen adeiladu'r capel; yng Nghortwn a'r Pîl (1842-3); yng Nghasnewydd gyda'r ychydig a ymneilltuasai o Charles Street, ac adeiladu'r deml iddynt. Dysgasai grefft saer yn ieuanc, ac yn ystod ei weinidogaeth helaethodd neu godi 12 o gapeli a chasglu i'w diddyledu; wedi codi ohono'r degfed fe'i llysenwyd yn 'Twm deg capel.' Cadwai ysgol ym Mhorthyrhyd a'r Pye Corner. Cafodd le amlwg yn y cymanfaoedd, cyhoeddodd bregethau, traethodau, a llyfr Saesneg, London and Country Scenes, etc.; dylid enwi'n neilltuol ei bregeth (24 Tachwedd 1839) Cynghor Da mewn Amserau Drwg, ar adeg terfysgoedd y 'Siarter,' a gyhoeddwyd yn 1840. Bu farw 4 Tachwedd 1846. Y mae cofiant iddo gan Ll. Jenkins a T. Thomas, 1847.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.