MORRIS, SILAS (1862 - 1923), prifathro Coleg y Bedyddwyr, Bangor

Enw: Silas Morris
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1923
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Coleg y Bedyddwyr, Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Tom Ellis Jones

Ganwyd 9 Ionawr 1862 yn Dafen, Llanelli. Symudodd y teulu i Bontardulais, a bu'r mab yn gweithio am gyfnod yng ngwaith alcam yr Hendy. Wedi dechrau pregethu aeth i ysgol T. Richards, Aberafon, a derbyniwyd ef i athrofa Pontypŵl yn 1880. Enillodd ysgoloriaeth i Fangor y flwyddyn yr agorwyd Coleg y Brifysgol yno, a sicrhaodd radd B.A. Llundain gydag anrhydedd mewn Groeg. Yn 1886 etholwyd ef yn athro yn y clasuron yng Ngholeg y Bedyddwyr, Llangollen, a daeth yn bennaeth y coleg hwnnw (ym Mangor) yn 1896. Cafodd radd M.A. Llundain yn 1888. Ystyrid ef yn ysgolhaig da ar iaith a llenyddiaeth y Testament Newydd, a bu'n aelod o bwyllgor y Brifysgol i ddwyn allan gyfieithiad newydd Cymraeg o'r Testament Newydd. Bu'n olygydd Seren Gomer am 10 mlynedd, ac ef oedd llywydd cymanfa Bedyddwyr Arfon yn 1906. Yr oedd yn bregethwr meddylgar ond heb unrhyw ymgais at fod yn boblogaidd. Cyhoeddodd lu o ysgrifau i'r gwahanol gyfnodolion. Bu farw 25 Gorffennaf 1923, a chladdwyd ef ym mynwent Sardis, Llanedi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.