MORRIS
,
RICHARD ROBERTS
(
1852
-
1935
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd
;
mab
William
a
Mary
Morris
,
Rhyd-ddu
,
Arfon
; g.
20 Mehefin 1852
yng
Nghae'rgors
, plwyf
Beddgelert
, ac yno ar aelwyd ei daid,
Richard
Roberts
, y magwyd ef nes bod yn 13 oed. Fe'i bedyddiwyd gan
‘
Emrys
’ (
William
Ambrose
[q.v.]
). Dewiswyd ef yn
flaenor
yn
Rhyd-ddu
yn 21 oed, a chymhellwyd ef i fynd i'r weinidogaeth yn
1876
.
Fe'i haddysgwyd yng
Nghlynnog
a
Holt
; aeth i
Goleg y Bala
yn
1878
. Yn
1882
priododd
Katherine
, merch y
Parch.
David
Morris
,
Caeathro
; bu iddynt bedwar o blant. Ordeiniwyd ef yn yr
Wyddgrug
yn
1883
. Bu'n
weinidog
Siloh
,
Caernarfon
(
1881-93
), a'r
Tabernacl
,
Blaenau Ffestiniog
(
1893-1924
). Ymddiddorai'n ieuanc mewn
barddoni
, ac
enillodd amryw o gadeiriau eisteddfodol
; yn eu plith
Corwen
(
1889
),
Meirion
(
1893
),
Gwŷr Ieuainc Gwrecsam
(
1894
). Yr oedd yn
ail orau am y goron
yn
eisteddfod genedlaethol Llanelli
(
1895
) ar y testun ‘
Ioan y Disgybl Annwyl
’; argraffwyd ei bryddest yr un flwyddyn yng
Nghaernarfon
. Ceir amryw o'i emynau yn
Cân a Moliant
(
H. Haydn
Jones
), ac erys un emyn o'i waith — ‘
Ysbryd byw y deffroadau
' — yn drysor cenedl gyfan. Yr oedd
‘
Alafon
,’
‘
Glan Llyfnwy
,’ ac yntau'n gyfeillion mawr. Ymneilltuodd yn
1924
ac aeth i fyw i
Blas-y-coed
,
Betws Garmon
, gan barhau i
bregethu
o fewn dwy flynedd i ddiwedd ei oes. Bu f.
24 Awst 1935
, a chladdwyd ym mynwent
Caeathro
.
Awdur:
Y Parch. William Morris, M.A., O.B.E., (1889-1979), Caernarfon