MORRIS, Syr LEWIS (1833 - 1907), bardd

Enw: Lewis Morris
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1907
Priod: Florence Julia Morris (née Pollard)
Rhiant: Lewis Edward William Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Barddoniaeth
Awdur: Gwyn Jones

Ganwyd 23 Ionawr 1833, yng Nghaerfyrddin, mab Lewis Edward William Morris - yr oedd yn or-ŵyr i Lewis Morris ('o Fôn'). Bu yn ysgol ramadeg y Frenhines Elisabaeth, Caerfyrddin, yn ysgolion y Bont-faen a Sherborne, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (1851; graddiodd yn 1856), ac fe'i derbyniwyd yn fargyfreithiwr yn 1861.

Cyhoeddodd yn 1871, eithr heb roddi ei enw wrtho, Songs of Two Worlds; daeth ail a thrydedd gyfres o dan yr un teitl yn 1874 a 1875. Dilynwyd y rhain gan gyfrolau eraill o farddoniaeth; o'r rhain The Epic of Hades, 1876-7, ydyw'r mwyaf adnabyddus a'r mwyaf uchelgeisiol. Y mae ei farddoniaeth yn iachus ac yn llifo'n rhwydd eithr heb fawr ysbrydoliaeth ynddi.

Gwnaeth waith a bery'n hwy na'i farddoniaeth drwy hyrwyddo addysg uchelraddol yng Nghymru. Yn 1878 daeth yn gydysgrifennydd Coleg Prifathrofaol Aberystwyth, bu'n gyd-drysorydd y sefydliad hwnnw, 1889-96, ac yn is-lywydd o 1896 hyd ei farw. Ceisiodd lawer tro gael ei ddewis yn aelod seneddol, eithr methodd; Rhyddfrydwr ydoedd o ran ei wleidyddiaeth.

Priododd, 1868, Florence Julia Pollard, a bu iddo ef a'i wraig ddwy ferch ac un mab. Bu farw 10 Tachwedd 1907.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.