MORRIS, JOHN (1813 - 1896), prifathro Coleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu

Enw: John Morris
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1896
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Coleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nghaerfyrddin yn 1813. Bwriedid iddo fod yn gyfreithiwr, ond troes at bregethu; aeth i ysgol ramadeg David Peter yng Nghaerfyrddin, ac oddi yno (1833) i Goleg Blackburn. Bu'n weinidog yn Saddleworth (1837-42) ac ym Morley (1842-54). Penodwyd ef yn 1854 yn olynydd i Henry Griffiths fel prifathro Aberhonddu. Dano ef, yn 1869, y symudwyd y coleg i'r adeilad yn Aberhonddu. Yn 1879 dyrchafwyd ef yn llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Bu farw yn Aberhonddu, yn ddisyfyd iawn, 27 Tachwedd 1896.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.