MORRIS
,
JOHN EDWARD
(
1859
-
1933
),
athro ysgol a hanesydd
;
g. yn
Rugby
, graddiodd yn
1882
o
Goleg Magdalen
,
Rhydychen
(
D.Litt.
1905
), bu'n
athro
hyd
1923
yn y
Bedford Grammar School
, a bu f.
8 Tachwedd 1933
. Nid oedd yn
Gymro
, ond rhoddir ei le iddo yma ar bwys ei brif waith,
The Welsh Wars of Edward I
,
1901
, sy'n adrodd hanes rhyfeloedd
Llywelyn ap Gruffudd
â'r
brenin
, a'r brwydro pellach yng
Nghymru
hyd
1295
, gyda rhagdraeth ar y rhyfeloedd rhwng y
Normaniaid
a'r
Cymry
cyn oes
Llywelyn
. Delia'r gwaith nid yn unig â'r brwydro ond hefyd â'r dulliau o gasglu milwyr, y cyllid, y cad-ddarpar, etc.; a seiliwyd ef nid ar groniclau ond ar ddogfennau a chyfrifon swyddogol. Serch i
Morris
(gw.
E.H.R.
, xxxix a xlvi) gamleoli brwydr olaf
Madog ap Llywelyn
[q.v.]
, erys gwerth ei lyfr.
Llyfryddiaeth:
-
Foster
,
Alumni Oxonienses
;
-
History
, 1912 ff
,
1933-4
, 344-5.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor