MORRIS, EBENEZER (1790 - 1867), clerigwr

Enw: Ebenezer Morris
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1867
Priod: Sarah Morris (née Williams)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1790, efallai yn Llandyfrïog (awgrymir hynny gan gofnod ei briodas); ni allwyd cael hyd i hanes ei ieuenctid a'i addysg.

Urddwyd ef yn 1813, a'i drwyddedu i guradiaeth Llandeilo Tal-y-bont; cafodd guradiaeth Llanedi yn 1815. Yn gynharach yn 1815 cafodd guradiaeth barhaol Llannon (Caerfyrddin); yn 1818 guradiaeth barhaol Llanddarog; ac yn Rhagfyr 1820 ficeriaeth Llanelli (lle'r oedd eisoes yn gurad) - y noddwr yn Llannon a Llanelli oedd Rees Goring Thomas, un o hyrwyddwyr Cymdeithas yr Ysgolion Cenedlaethol (A History of Carmarthenshire, ii, mynegai). Yr oedd wedi priodi (yn Llandyfaelog, 2 Medi 1813) â Sarah, ferch John Williams o Gaerfyrddin, pumed mab yr esboniwr Peter Williams; cawsant ddwy ferch, a merch i un o'r rheini oedd gwraig A. J. M. Green (bu ef yn gurad dan Morris), tad yr archesgob Charles A. H. Green - gweler G. M. Roberts , Bywyd a Gwaith Peter Williams, 164, 167.

Ailbriododd yn 1839.

Yn sicr, yr oedd Morris yn 'gymeriad'; dyn hardd a chadarn; Protestant cryf; pregethwr poblogaidd iawn yn ei ddyddiau gorau - gymaint felly fel y craciodd llofft eglwys Llanelli rywdro dan bwys y gwrandawyr (Innes, Old Llanelly, 21). Cychwynnodd ysgol genedlaethol yn 1837, ac yr oedd yn flaenllaw gyda'r ' Mechanics' Institute ' yn y dref. Yr oedd yn Eglwyswr pendant iawn; ailgydiodd yn hen gapel anwes ' Capel Ifan ' a ddefnyddid gan y Methodistiaid byth er 1743 (A History of Carmarthenshire, ii, 196); ac wrth gwrs yr oedd hi'n frwydr ddiorffwys rhyngddo a'i gymydog o Annibynnwr, David Rees - gellir beio'r ddau fel ei gilydd am ganlyniadau anffodus eu hysgarmesoedd ynghylch y dreth Eglwys yn Llanelli a Llannon, 1838-40 (Innes, 82-3; Jenkins, Cymru yn y 19eg ganrif, 107-8). Ond yr oedd tymer Morris yn aflywodraethus hyd at orffwylledd; nid oedd yn ddim ganddo ddyrnu a chicio'r sawl a anghytunai ag ef ar faterion mwyaf dibwys, hyd yn pan fyddent yn ustusiaid heddwch (Innes, 129-30; cymh. Carmarthen Antiquary, 1943-4, 63). Drysodd ei amgylchiadau hefyd, ac yn 1843 (ac wedyn) atafaelwyd ei gyflog i dalu dyled o £5,000 i'w noddwr Rees Goring Thomas, a dyled arall o £500.

Ymddengys iddo gael ei barlysu yn ei flynyddoedd diwethaf (Innes, 22); gofelid am ei blwyfolion y pryd hynny gan ei gurad A. J. M. Green. Bu farw 18 Ebrill 1867, yn 77 oed. Cyhoeddodd yn 1818 ddau argraffiad o bamffled, Ymddiddan rhwng Senex a Juvenis, yn erbyn David Davies, Pant-teg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.