MORRIS, DAVID (1787 - 1858), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, cyhoeddwr gweithiau 'Pantycelyn'

Enw: David Morris
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1858
Rhiant: Ann Morris
Rhiant: John Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, cyhoeddwr gweithiau 'Pantycelyn'
Maes gweithgaredd: Crefydd; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn 1787, yn fab John ac Ann Morris, Melin Clun-hir, Llandybïe, Sir Gaerfyrddin. Gŵr ieuanc ofer ydoedd nes ei argyhoeddi o dan weinidogaeth yr Annibynnwr Rhys Powel, Cross Inn. Ymunodd â'r Methodistiaid yn y Betws ond symudodd ymhen ychydig i gapel yr Hendre. Dechreuodd bregethu yno c. 1816, ond nis ordeiniwyd erioed. Ef, y mae'n debyg, oedd offeryn tröedigaeth Edward Matthews, Ewenni. Cafodd yr hawlfraint gan deulu ' Pantycelyn ' a chyhoeddodd nifer o adargraffiadau o weithiau William Williams rhwng y blynyddoedd 1833 a 1854. Bu farw 19 Mehefin 1858, a chladdwyd ef yn yr Hendre.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.