MORGAN
,
WILLIAM
(
1819
-
1878
),
bardd
;
g.
3 Gorffennaf 1819
yng
Nghefn-coed-cymer
, gerllaw
Merthyr Tydfil
. Yr oedd ei fam yn nith i'r
Dr.
George
Lewis
[q.v.]
. Symudodd y rhieni i
Aberdâr
pan oedd y plant yn ieuanc. Daeth y mab yn flaenllaw yng nghylchoedd
Methodistaidd
Aberdâr
a'r cylch. Yr oedd yn gyfeillgar â
John
Roberts
(‘
Ieuan Gwyllt
’) [q.v.]
, a ddaeth i'r ardal i
olygu
Y Gwladgarwr
,
1858
; iddynt hwy, yn anad neb, y mae'r clod am
sefydlu y
‘gymanfa ganu’
(
1859
), sefydliad a ledodd trwy
Gymru
yn fuan wedi hynny. Priododd
Mary
, chwaer
Noah Morgan
Jones
(‘
Cymro Gwyllt
’). Daeth
Ann
, ei chwaer, yn wraig
David
Williams
(‘
Alaw Goch
’) [q.v.]
. Bu f.
7 Medi 1878
a chladdwyd yng nghladdfa
Aberdâr
.
Llyfryddiaeth:
-
Ben Morus
,
Enwogion Aberdâr
, 1910
;
-
The Aberdare illustrated almanac
,
1896
, 45;
-
Y Cylchgrawn
,
Hydref 1878
a
Ionawr 1879
;
-
Y Traethodydd
,
1879
, 115-27;
-
Y Geninen
(Gŵyl Dewi),
1908
, 54;
-
John Mills
,
Hanes Bethania, Aberdâr
;
-
Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
2196-7.
Awdur:
Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr