MORGAN, WILLIAM (1623 - 1689), Jesiwit

Enw: William Morgan
Dyddiad geni: 1623
Dyddiad marw: 1689
Rhiant: Winefrid Morgan (née Gwynne)
Rhiant: Henry Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Jesiwit
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd 1623 yng Nghilcain, Sir y Fflint, yn fab i Henry Morgan a Winefrid Gwynne. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster a dywed Foley iddo fyned oddi yno yn 1640 i Goleg y Drindod, Caergrawnt, er nad oes dim o'i hanes yng nghofnodion na'r coleg hwnnw na cholegau eraill y brifysgol. Trowyd ef allan ymhen dwy flynedd fel un o bleidwyr y brenin Siarl. Cymerwyd ef yn garcharor ym mrwydr Naseby, ac ymhen chwe mis fe'i halltudiwyd gan y Seneddwyr. Troes yn Babydd ar y Cyfandir; fe'i derbyniwyd yn aelod o Gymdeithas Iesu yn 1651, a dychwelodd i Brydain yr un flwyddyn. Bu'n bennaeth ar Goleg y Santes Gwenfrewi yn Nhreffynnon, 1672-8; ffodd i'r Cyfandir yn ystod helynt Titus Oates; dychwelodd drachefn, ond daliwyd ef gan yr awdurdodau yn niwedd 1679. Bu yng ngharchar hyd 1683, ac yna aeth i Rufain fel pennaeth y Coleg Seisnig, 1683-6. Etholwyd ef yn ' provincial ' o Gymdeithas Iesu a bu farw yng Ngholeg S. Omer, 28 Medi 1689.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.