Fe wnaethoch chi chwilio am WILLIAM MORGAN

Canlyniadau

MORGAN, WILLIAM (c.1545 - 1604), esgob a chyfieithydd

Enw: William Morgan
Dyddiad geni: c.1545
Dyddiad marw: 1604
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Glanmor Williams

Ganwyd yn y Ty Mawr, Wybrnant, ym mhlwyf Penmachno, tua 1545 (Venn, Alumni Cantabrigienses), yn fab John ap Morgan ap Llywelyn, tenant ar stad Gwydir, a'i wraig Lowri, merch William ap John ap Madog. Dywedir iddo dderbyn ei addysg fore gan hen fynach, ac aeth i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, fel 'sub-sizar' (gwas ac efrydydd) yn 1565. Graddiodd yn B.A. yn 1568 ac yn M.A. yn 1571, a daeth yn ddiweddarach yn B.D. (1578) ac yn D.D. (1583). Yn ystod y cyfnod hwn, digon tebyg, yr argyhoeddwyd ef gan athrawiaethau Protestannaidd. Y mae'n bur annhebyg i Morgan fod yn ddisgybl i John Immanuel Tremellius, ysgolhaig enwog yn yr Hebraeg, a fu'n athro yng Nghaergrawnt o 1550 hyd 1553, er iddo dalu ymweliad â Llundain am beth amser yn 1565. Fodd bynnag, gallasai Morgan fod wedi defnyddio cyfieithiad Lladin Tremellius o'r Hen Destament, a gyhoeddwyd gyntaf yn Frankfurt yn 1575, ac a ail-argraffwyd yn Llundain yn 1579-80. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn Nhrelái ar 15 Ebrill 1568; mae ei gais am urddau (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 1922-3) yn nodi ei fod yn 23 oed ar y pryd. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ar 21 Rhagfyr 1568.

Y mae'n bosibl iddo fod yn ficer Llanbadarnfawr, Sir Aberteifi, o 1572 hyd 1577. Daeth wedyn yn ficer y Trallwng (1575-9), rheithor segurswydd Dinbych (1575-96), ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant (1578-95?), a Llanarmon (1578-95?), rheithor Llanfyllin (1579-1601), ac yn berson Pennant Melangell (1588-95). Gan gymaint gelyniaeth rhai o'i blwyfolion, helynt ddiflas a gafodd yn Llanrhaeadr. Ifan Meredith, o deulu Lloran Uchaf, oedd ei elyn pennaf, ac enynnwyd ei lid gyntaf pan lwyddodd Morgan i gael aeres gyfoethog i briodi Robert Wynn o Wydir, ar draul gobeithion nai Meredith. Yn 1579, bu Morgan yn un o'r tystion mewn achos cyfreithiol ynghylch dilysrwydd priodas Meredith, ac ar yr achlysur hwnnw y daeth i gysylltiad gyntaf â'r archesgob Whitgift, a'i cefnogodd yn fawr yn ei waith o gyfieithu. Canlyniad y cwerylon hyn oedd yr achosion a ddygwyd gan Morgan, a gwrth-achosion ei elynion, yn Llys y Seren ac o flaen Cyngor y Gororau, 1589-91. Tystia cofnodion Llys y Seren mai offeiriad cydwybodol oedd Morgan ar y cyfan, yn cael ei flino lawer gan falais ei elynion.

Y mae'n bosibl i Morgan ddechrau ar y gwaith o gyfieithu'r Beibl cyn gadael Caergrawnt; y mae'n sicr iddo'i orffen yn Llanrhaeadr - cryn gamp ag ystyried y gecraeth annifyr a fu yno. Trwy radlonrwydd Gabriel Goodman, bu modd iddo aros yn Llundain i arolygu argraffu ei Feibl, a ddechreuwyd tua diwedd 1587. Fe'i cyhoeddwyd rywbryd rhwng mis Medi a 20 Tachwedd 1588. Wrth gyflwyno'r llyfr i'r frenhines Elisabeth, dadleuodd yn huawdl gymaint oedd yr angen amdano. Er bod iaith ei Feibl braidd yn bedantig, fe'i nodweddid gan rym a phurdeb y farddoniaeth glasurol ynghyd ag ystwythder a helaethder newydd mewn mynegiant. Ei waith oedd gwir sylfaen llenyddiaeth (a Phrotestaniaeth) Cymru fodern. Yn 1588, hefyd, cyhoeddodd ei gyfieithiad o'r Salmau ar wahân.

Ar 30 Mehefin 1595 cysegrwyd ef yn esgob Llandaf, ond cadwodd fywoliaeth Llanfyllin, a rhai o'i fywiolaethau eraill o bosibl. Symudwyd ef yn 1601 i Lanelwy, esgobaeth a oedd ychydig yn gyfoethocach. Ildiodd ei fywiolaethau eraill, ond daliodd archddiaconiaeth Llanelwy 'in commendam.' Fel esgob, yr oedd yn taer gefnogi pregethu ac ailadeiladu. Gymaint oedd ei awydd i warchod meddiannau tymhorol yr esgobaeth fel yr aeth yn gynnen boeth rhyngddo a David Holland, Teirdan, ac yn boethach fyth rhyngddo a Syr John Wynn. Bu farw 10 Medi 1604. Priododd Catherine ferch George, gweddw William Lloyd, ond ni bu iddynt blant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.