MORGAN (TEULU), Tredegar Park, etc., sir Fynwy

Rhoddir llinach y teulu hwn yn y gweithiau arferol ar y teuluoedd tiriog a'r bendefigaeth - Burke, Debrett, etc.; gweler hefyd y manylion yn G. T. Clark, Limbus Patrum Morganiae et Glamorganiae. Argreffir (neu fraslunir) rhai dogfennau ynglyn â rhai o'r Morganiaid, yn enwedig Morganiaid Tredegyr (Tredegar) a Morganiaid Llantarnam, gan George Blacker Morgan yn ei Historical and Genealogical Memoirs of the Morgan Family as represented in the Peerage of Ireland by the Right Hon. the Baron Tredegar (London, tair cyfrol, 1895?-7). Gan fod rhai o'r Morganiaid yn cael sylw ar wahân, disgrifiad cyffredinol a roddir yma.

Olrheinir ach y teulu (fel rheol) hyd at LYWELYN ab IFOR, arglwydd S. Clêr a Gwynfor, Sir Gaerfyrddin, trwy etifeddiaeth, ac arglwydd Tredegar a Chyfoeth Feredydd trwy ei wraig, Angharad, ferch Syr Morgan ap Maredydd, arglwydd Tredegar. Dywedid fod Llywelyn yn disgyn o Gadifor Fawr, arglwydd Cilsant.

Heblaw ei aer, MORGAN ap LLEWELYN, yr oedd i Lywelyn ab Ifor fab o'r enw IFOR, Gwernyclepa, sir Fynwy - sefydlydd teulu Morganiaid Gwernyclepa; daeth tiroedd y teulu hwn yn eiddo teulu Tredegar yn 1632. Bu i Morgan ap Llewelyn (a fu farw cyn 1384) ddau fab - LLEWELYN ap MORGAN (yn fyw yn 1387) a PHILIP ap MORGAN; yr ail oedd sefydlydd Morganiaid Llantarnam.

Parhaodd y llinell union, o Llewelyn ap Morgan, trwy IEUAN ap LLEWELYN ap MORGAN, a Syr JOHN MORGAN, 'Knight of the Sepulchre,' 1448, stiward Gwynllwg, a urddwyd yn farchog 26 Mehefin 1497. Mab iau i Syr John Morgan oedd THOMAS MORGAN, Machen (yn fyw yn 1538), 'Esquire of the Body' i'r brenin Harri VII ac hen hen hen hen ewythr MILES MORGAN, a gollodd ei long (The Red Lion) a'i fywyd yn 1578 pan yn cymryd rhan yn ymgyrch Syr Humphrey Gilbert i America; amdano ef gweler G. Blacker Morgan, op. cit. Aer Thomas Morgan oedd ROWLAND MORGAN (1517? - 1557), Machen, brawd y John Morgan a sefydlodd deulu Morganiaid Basaleg. Bu i ROWLAND MORGAN ddau fab a phedair merch. Yr aer oedd THOMAS MORGAN, Machen a Tredegar; brawd iddo oedd HENRY MORGAN, sefydlydd Morganiaid Llanrhumney. Mab Thomas Morgan oedd Syr WILLIAM MORGAN (y mae ei ewyllys ef wedi ei dyddio 16 Ionawr 1650). Ef a groesawodd y brenin Siarl I i Dredegar, 16 a 17 Gorffennaf 1645. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf o'i wraig gyntaf - THOMAS MORGAN (bu farw 18 Hydref 1666), tad yr Elizabeth Morgan a briododd Sir Trevor Williams, Llangibby. Mab i William Morgan o'i ail wraig, Bridget, ferch ac aeres Anthony Morgan, Heyford, sir Northampton, oedd yr ANTHONY MORGAN (a fu farw 1665), y Brenhinwr y ceir ei hanes yn y D.N.B., a ddywed, fodd bynnag, mai Syr William Morgan oedd ei dad. [Ceir nodyn byr yn y D.N.B. am drydydd ANTHONY MORGAN (fl. 1652), sef hwnnw y dywedir ei fod o Feirin a'r 'Casebychan' (?Casbach), sir Fynwy, ac a aeth i wasanaeth iarll Worcester yn 1642; gweler ymhellach Cal. of Comm. for Compounding, rhan iii, 2123; rhan iv, 2807, a Commons Journals, vii, 153.]

Aer y Thomas Morgan a fu farw yn 1666 oedd WILLIAM MORGAN (bu farw 28 Ebrill 1680). Priododd, 1661, Blanche, ferch William Morgan, Thirrow, sir Frycheiniog, a mab o'r briodas hon oedd THOMAS MORGAN (1664 - 1699), a briododd Martha, ferch Syr Edward Mansel, Margam, Sir Forgannwg. Ymdrinir â llythyrau ynglyn â Thomas Morgan a'i briodas yn nhrydedd gyfrol catalog Ll.G.C. o ddogfennau Margam; gweler hefyd o dan teulu Mansel, Margam. Bu'r Thomas Morgan hwn farw yn ddi-etifedd ac aeth yr eiddo i'w frawd John Morgan (1670 - 1719/20), Tredegar a Rhiwperra, arglwydd-raglaw siroedd Mynwy a Brycheiniog a phleidiwr y Chwigiaid. Bu ei fab, Syr William Morgan (1700 - 1731), K.B., hefyd yn arglwydd-raglaw y ddwy sir; gweler G. Blacker Morgan, op. cit., ii, 1-4. Bu ei fab ef, William Morgan (1725 - 1763), farw yn ddibriod a dilynwyd ef gan ei ewythr, THOMAS MORGAN (1702 - 1769), Rhiwperra, a ddilynwyd gan ei fab THOMAS MORGAN (1727 - 1771), Tredegar, arglwydd-raglaw siroedd Mynwy a Brycheiniog, a oedd yntau'n ddibriod pan fu farw. Aer olaf Morganiaid Tredegar oedd JANE MORGAN, merch y Thomas Morgan a fu farw yn 1769. Priododd Jane Morgan (1731 - 1797) yn 1758. Ei gwr oedd CHARLES GOULD, a ddaeth yn Syr Charles Gould, barwnig, ar 15 Tachwedd 1792. Yr oedd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor, yn LL.D., 'Advocate-General and Judge Marshal of H.M. Forces,' ac yn aelod seneddol dros sir Frycheiniog mewn tair Senedd (Williams, The parliamentary history of the principality of Wales). Mabwysiadodd gyfenw ac arfbais teulu Morgan (Tredegar). Bu Lady Morgan farw 14 Chwefror 1797, a bu ei gwr, Syr CHARLES GOULD MORGAN, barwnig, farw ar 6 Rhagfyr 1806 a'i ddilyn gan y cyrnol Syr CHARLES MORGAN (1760 - 1846), ail farwnig. Yr oedd ef yn gapten yn y Coldstream Guards, yn aelod seneddol dros sir Frycheiniog, 1787-96, a thros sir Fynwy, 1796. Ymhlith ei blant o'i wraig gyntaf (Mary Margaret, merch Capt. George Stoney, R.N.) yr oedd (a) y barwn Tredegar 1af, (b) AUGUSTUS SAMUEL MORGAN, rheithor Machen a changhellor eglwys gadeiriol Llandaf, a (c) Charles Swinnerton Octavius Morgan.

Mab hynaf Syr Charles Morgan, yr ail farwnig, oedd CHARLES ROBINSON MORGAN (1792 - 1875), barwn Tredegar (crewyd 16 Ebrill 1859), arglwydd-raglaw sir Frycheiniog, sir y bu yn ei chynrychioli yn y Senedd hefyd am gyfnod. Trwy ei wraig, Rosamund, merch y Cadfridog Godfrey Basil Munday, yr oedd yn dad (a), CHARLES RODNEY MORGAN (1828 - 1854), aelod seneddol dros sir Frycheiniog, a fu farw yn ddibriod, (b) Godfrey Charles Morgan, ail farwn Tredegar (isod), a (c) FREDERICK COURTENAY MORGAN (1834 - 1909), Rhiwperra.

Enillodd GODFREY CHARLES MORGAN (1831 - 1913), ail farwn ac is-iarll Tredegar, enw iddo'i hun yn rhyfel y Crimea; y mae llythyrau (yn Ll.G.C.) a ysgrifennwyd o'r Crimea ganddo ef a'i frawd, Frederick Courtenay Morgan, at eu mam. Yr oedd yr ail farwn yn flaenllaw ym mywyd cymdeithasol, diwydiannol, ac addysgol Deheudir Cymru; y mae cof-ddelw ohono (ar farch) ym Mharc Cathays, Caerdydd. Bu'n aelod seneddol sir Frycheiniog, 1858-75, ac yn arglwydd-raglaw sir Fynwy. Gwnaethpwyd ef yn is-iarll Tredegar, 28 Rhagfyr 1905, eithr gan iddo farw yn ddibriod (11 Mawrth 1913) daeth yr is-iarllaeth i ben. Dilynwyd ef fel barwn gan ei nai, COURTENAY CHARLES EVAN MORGAN (1867 - 1934), 3ydd barwn Tredegar, a grewyd yn is-iarll Tredegar ar 4 Awst 1926. Bu ef yn gwasnaethu yn y rhyfel â'r Boeriaid ac yn rhyfel 1914-8.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.