MORGAN
,
THOMAS
(bu f.
1833
),
cenhadwr gyda'r Methodistiaid Wesleaidd a gweinidog
;
g. yn
Aberafan
,
Morgannwg
. Aeth i'r
weinidogaeth
yn
1808
, a llafuriodd ynddi am 25 mlynedd, 18 ohonynt yn y maes cenhadol a saith yn
Lloegr
. Yn
1810
apwyntiwyd ef i
ofalu am yr orsaf genhadol
ar
ynys Antigua
, yn
India'r Gorllewin
. Yn
1816-7
bu'n gofalu am gylchdaith
S. Vincent
, a bu'n bwrw golwg dros
S. Dominica
am saith mlynedd. Bu'n
gadeirydd
ac yn
arolygwr y rhanbarthau
dros dymor cythryblus rhyddhau'r caethion. Meddai ddawn eithriadol fel
cenhadwr
, ac yr oedd iddo'r un arbenigrwydd ynglŷn â materion ariannol y gymdeithas. Â'i iechyd yn pallu, ymwelodd â
Lloegr
yn
1831
, a bu f. yng
Ngorffennaf 1833
.
Llyfryddiaeth:
-
Yr Eurgrawn Wesleyaidd
, Dolgellau
, xxv, 373-4;
-
G. Penar Griffith
,
Cenhadon Cymreig
.
Awdur:
Y Parchedig Ddr. Evan Lewis Evans, D.Th., (1898-1978), Pontarddulais /
Abertawe